Y Sgrin

  • Header image

Mez Kerr Jonesy lle [...]

02 Chwefror - 02 Mawrth 2019

Graddiodd Mez Kerr Jones (g. 1992) yn ddiweddar o Ysgol Gelf Glasgow ac ar hyn o bryd mae’n byw rhwng Glasgow, Caerdydd a Llundain. Mae gwaith Mez yn edrych ar y cysylltiadau rhwng grym a gofodoldeb, lle, elw a pherchnogaeth. Gofod trefol yw’r gefnlen i fywydau lu a chan ddefnyddio teithiau fel offeryn ymchwil, mae Mez yn myfyrio ar sut mae dinasoedd yn gweithredu ac ar hunaniaeth, diogelwch a chydraddoldeb. Mae ei gwaith yn mynegi ei chymhelliad dros newid gwleidyddol a chymdeithasol.


 A City Named ‘Dog’, 2019
VHS / Fideo digidol
Hyd tua 40 munud

Yn y cyfnod neo-ryddfrydol yma o ailddatblygu, adfywio a dymchwel, mae’n bwysig gofyn beth yw’r cyd-destun ideolegol ar gyfer yr ailadeiladu dinasoedd yma a pha effaith y mae hyn yn ei chael ar ddinasoedd ôl-ddiwydiannol fel Glasgow.

Mae trac sain y ffilm yn gymysgedd o ganeuon sy’n trafod hunaniaeth, newid yn y ddinas, unigrwydd a theimladau prudd o golled. Caneuon serch yw’r rhain am le a’r tyndra parhaus rhwng aros a gadael, hiraeth am rywbeth gwell, neu alar am rywbeth a adawyd ar ôl.

Wedi’i gwneud gan ddefnyddio camcordydd VHS, mae’r ffilm yn gadael i’r gwyliwr weld materion y dydd yn cael eu cyfryngu’n ôl-weithredol drwy lens y gorffennol.

Mae ffigwr unigol y gyrrwr tacsi’n gyfarwydd fel cymeriad go iawn a ffuglennol, fel rhywun sy’n dod ar draws pobl a newidiadau yn yr amgylchedd adeiledig ac sy’n nabod y ddinas fel cartref a ffordd o ennill bywoliaeth. Cŵn yw’r fforwyr yma - y flâneurs di-ryw ac an-ddynol, rhydd-feddianwyr strydoedd y ddinas, protagonyddion dewr a sylwedyddion dieiriau.

Mae Iain, y gyrrwr tacsi, yn byw gyferbyn â’r Ysgol Gelf yn Garnett Hill yn Glasgow. Mi es i’n ffrindiau gyda’i gi George ar y stryd ryw ddiwrnod gan ddweud wrth Iain mai dyna fu fy mreuddwyd erioed pan oeddwn yn iau i berchen ar gi tarw. Fisoedd yn ddiweddarach ar ôl graddio mi es i dacsi o Orsaf Ganolog Glasgow gan sgwrsio gyda’r gyrrwr am gŵn: am fywyd gyda nhw, eu colli, eu caru a dywedais wrtho fod fy nghi wedi marw’n ddiweddar. Dywedodd  yntau wrtha i am ei gŵn tarw a sylweddolais mai Iain oedd o. Mae ei gŵn tarw, George a Harry, yn teithio o gwmpas Glasgow gydag Iain yn ei dacsi, gan gwrdd â phobl, gwylio’r ddinas a mwynhau’r daith.

 

<< Yn ôl tudalen