Y Sgrin
Lee WilliamsEphemeral Coast
23 Mai - 25 Mehefin 2017
Prosiect ymchwil curadurol yw Ephemeral Coast, www.ephemeralcoast.com wedi ei arwain gan Celina Jeffery. Daw ag artistiaid, ysgrifenwyr a gwyddonwyr newid hinsawdd at ei gilydd i archwilio sut all curadu ddatblygu ystyriaeth o newidiad hinsawdd arfordirol.
Nod Ephemeral Coast yw adnabod yr arfordir fel lleoliad a dangosydd newidiadau daearyddol eithafol sydd yn cymryd lle o ganlyniad i newid amgylcheddol. Mae’n amcanu fod curadu celf gyfoes yn broses unigryw lle efallai gwnawn ni ddarganfod, dadansoddi, ac ail-ddychmygu’r cwestiynu emosiynol sydd yn amgylchynu’r trawsffurfiad ecolegol a diwylliannol yma.