Y Sgrin

  • Header image
  • Header image
  • Header image

Jonathan Arndell & Dafydd Williamsy lle [...]

05 Ebrill - 08 Mai 2016

Ymateb i ​Ŵyl Ryngwladol Abertawe

 

Jonathan Arndell

 

Defnyddia Jonathan wrthrychau darganfedig i archwilio syniadau o ymadawiad a datod graddol amgylcheddau ac arteffactau dynol. Mae ei waith fel pensaer dros y 40 mlynedd diwethaf wedi cynnwys ail ddyfeisio adeiladau sy’n bodoli’n barod am ddefnydd newydd. Archwilia adeiladau sydd wedi bod yn wag am nifer o flynyddoedd ac mae ganddo ddiddordeb yn y ‘pethau’ mae pobl wedi dewis gadael ar ôl wrth adael.

 

Mae ymateb Jonathan iGRAyn edrych ar y syniad hwn a’i ddefnyddio i archwilio natur ffiniau gwerthfawrogi ‘celf’ a gofyn: ‘Pam fod hi mor anodd cysylltu grwpiau cymuned amrywiol yn yr wŷl?’ Arwyddocâd y neuadd bingo gwag yw bod bingo yn rhywbeth sydd â chynulleidfa targed gwahanol iawn. Nid yw’r amgylchedd yn cynnig prydferthwch neu bleser i’r chwaraewyr. Mae gorffeniadau yn sylfaenol ac ond yn ddefnyddiol. Mae’r lliw yn unsill a hy. Cynigir cerddoriaeth, bwyd a diod, ond mae’r ffocws mwy neu lai ar y rhifau.

 

Mae’r nenfwd crog yn cynrychioli rhwystr gwybodaeth a’r cwestiwn pellach yw: ‘Sut gellid gwaredu neu ymdreiddio’r rhwystr yma i adael cynulleidfa arall fwynhau’r math o gerddoriaeth sy’n cael ei gynnig ganGRA?’ Mae’r cwestiwn yn hen un. Nid oes ateb yn cael ei gynnig yma, dim ond nodyn ei fod efallai’n bosib gwneud ‘celf’ yn fwy hygyrch i bawb os fe’u lleolir o fewn eu profiadau ac amgylchfeydd bob dydd.

 


 


Dafydd Williams

 

Mewn cydweithrediad â Jonathan Arndell, mae’r ffotograffydd a’r artist Dafydd Williams, wedi ceisio cipio golwg ar waliau melyn yr hen neuadd bingo. Mae’r delweddau yn darlunio décor heneiddiol, pensaernïaeth naff, a mes ailadroddol. Mae’r waliau a’r seddi off set, onglau rhyfedd a’r perthynas rhwng gwrthrychau a’r adeilad yn cwestiynu angen person am drefn a ffurfioldeb. Y cyfuniad o’r waliau melyn a’r goleuo caled mewnol, heb bron dim golau allanol/naturiol, yn setio palet lliw cyffiol, gyda’r unig liw adfywiol i’w weld lle'r oedd y fframiau ar y waliau, dim ond y darnau hyn a achubwyd o fwg ac oedran.

 

Myfyriwr 3ydd blwyddyn Ffotograffiaeth yng Nghelfyddydau yn astudio yng Ngholeg Celf Abertawe, UWTSD yw Dafydd Williams. Mae ei waith yn ffocysu ar Heteronormalrwydd ac ystrydebu gwrywgydiol, gan wneud cysylltiadau rhyng-genedlaethol rhwng artistiaid hoyw clasurol tybiedig, y ffigyrau gwrywol maent yn portreadu, ac eironi’r sefydliadau crefyddol fe’u portreadir o fewn.

 


 

Mae’r arddangosfa yn parhau yn Oriel Colonnade Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Gyda diolch i Gyngor Sir Abertawe 

<< Yn ôl tudalen