Y Sgrin

  • Header image
  • Header image
  • Header image

Gemma Coppy Lle [...]

15 Gorffennaf - 17 Awst 2014

Gyda’i gorff parhaol o ddŵr halen yn gorchuddio rhan fwyaf o arwyneb y ddaear, mae’r môr i’w weld fel corff geoffisegol gyda rhythmau’r tonnau yn actio fel ei ysgyfaint. Mae’r môr yn atgof parhaol o fywyd, lle mae ystumiau tonol yn anadlu bodolaeth i gyefin natur ac yn pweru cylchred atgenhedlu. Ond beth os oedd i stopio? Rhoddir werth ar fywyd oherwydd ei natur byr a dros dro, ac mae’r bae yn gallu bod yr un mor fregus a darfodedig. Beth os oedd y rhythm i’w niweidio a’r gylchred i dorri? Bydd cydbwysedd natur yn diflannu gyda’r llanw isel, byth i ddychwelyd? O fewn y darn gwelwch ffigwr llonydd, trist, mewn du, gyda’i chefn i’r gwyliwr. Edrycha fel petai’n sefyll, yn cydbwyso ar y môr, fel symuda’r tonnau o’i hamgylch. Ar y pwynt yma, mae’r môr i weld fel ei fod mewn cydbwysedd ond wrth newida’r llanw uchel i isel o amgylch y ffigwr, mae yna argraff bod rhywbeth bygythiol ar fin digwydd. Lliw a ffocws y gorwel, a oedd yn glir ac ysbrydol, gan greu teimladau o hapusrwydd a phosibiliadau enbyd, nawr yn cynnig teimladau cyntefig o bryder ac anghyfanedd-dra.


Am | Gemma Copp

Artist Cymreig yw Gemma Copp, sydd yn byw yn Abertawe, dinas ei genedigaeth. Wedi graddio mewn BA yng Nghelf Gain yn Metropolitan Abertawe yn 2006, aeth Copp ymlaen i gyflawni MA yn Neialogau Cyfoes yn yr un brifysgol yn 2009. Yn ddiweddar mae Copp wedi cymryd rhan yn rhaglen Artist Preswyl Oriel Glynn Vivian. Mae ei gwobrau yn cynnwys Artist y Flwyddyn Cymru yn 2012. Dangosodd Copp waith yn Oriel Talbort Rice, Caeredin yn ddiweddar, ac yng Ngŵyl Ffilm Mannheim, lle cafwyd cymeradwyaeth arbennig gan y beirniaid. Gweithia Copp gyda ffilm a gwaith sefydlog ac mae ei gwaith yn codi fflwcs o deimladau cyntefig yn gysylltiedig i hunaniaeth a theimladau a phryderion dynol.

<< Yn ôl tudalen