Y Sgrin

  • Header image

Daniel TrivedyEphemeral Coast

27 Mehefin - 06 Awst 2017

Gan ddefnyddio celf fel ffordd i archwilio, mae ymarfer Daniel yn broses troellog o ymchwil, meddwl a chwarae gyda defnydd sydd yn anaml yn creu diweddglo neu ganlyniad diffiniedig. Beth sydd wedi datblygu dros gyfnod o amser yw’r nifer o linynnau sgyrsiau sydd yn cyffwrdd ar themau o gysylltiad, perthyn a dinasfraint fydol. Mae gan Daniel diddordeb yn ein perthynas seicolegol i’n gilydd. Beth yw llinach, cangheniad a chanlyniadau’r perthnasau yma? Fel mae’r perthnasau yma yn newid mewn byd mwy cysylltiol ond arwahan?

Archwilia gwaith Daniel ar gyfer Oriel Mission cymhlethdod a natur newidiol geiriau i ymwneud ac Ymfudo. Mae nifer o’r geiriau yma wedi eu hail-ddehongli drwy gyfrwng digidol, gan eu rhyddhau o’r cysylltiadau negyddol. Yn drafodol, mae geiriau ychwanegol wedi eu hail-greu a’u newid i’r gwaith.

Gan ddilyn ‘The Five Obstructions’ Lars Von Trier, rhoddodd Daniel nifer o gymelliadau gosodedig ar ei hun wrth greu’r gwaith yma. Ymadawiad ydyw o’i ffordd gyffredin o weithio ac o ganlyniad mae’n ffordd fwy ailadroddol.

 


 

Prosiect ymchwil curadurol yw Ephemeral Coast, www.ephemeralcoast.com wedi ei arwain gan Celina Jeffery. Daw ag artistiaid, ysgrifenwyr a gwyddonwyr newid hinsawdd at ei gilydd i archwilio sut all curadu ddatblygu ystyriaeth o newidiad hinsawdd arfordirol.

Nod Ephemeral Coast yw adnabod yr arfordir fel lleoliad a dangosydd newidiadau daearyddol eithafol sydd yn cymryd lle o ganlyniad i newid amgylcheddol. Mae’n amcanu fod curadu celf gyfoes yn broses unigryw lle efallai gwnawn ni ddarganfod, dadansoddi, ac ail-ddychmygu’r cwestiynu emosiynol sydd yn amgylchynu’r trawsffurfiad ecolegol a diwylliannol yma.

<< Yn ôl tudalen