Y Sgrin

  • Header image

Anthony Arrowsmithy lle [...]

12 Tachwedd - 11 Ionawr 2020

F8 a byddwch yno

Fel arfer,  priodolir yr ymadrodd ‘F8 a byddwch yno’ i’r ffotograffydd dogfen Weegee, oedd yn nodedig am ei ddelweddau du a gwyn moel o Efrog Newydd yn y 1930au, 40au a 50au. Pan ofynnwyd iddo sut roedd yn llwyddo i gael delweddau oedd wastad mor ddiddorol, ei ateb oedd y dyfyniad uchod sydd bellach yn enwog. Mae Weegee yn cyfeirio at ddefnyddio’r dechneg o saethu gyda’r agorfa wedi’i gosod ar ‘F8’; bydd defnyddio’r gosodiad hwn yn sicrhau y bydd bron popeth y tynnir llun ohono yn yr olygfa mewn ffocws, o ben blaen i gefn y ddelwedd. Wrth ddweud ‘… a byddwch yno’, mae’n golygu gwnewch yn siŵr eich bod yn cyrraedd yn hollol barod a hefyd yn ymwybodol o ble’r ydych chi ac i beth da rydych chi yno.

Mae rhyw symlrwydd yn perthyn i’r dyfyniad yma sy’n ddeniadol i ffotograffwyr, ond mae hefyd yn eithaf niwlog gan ddatgelu fawr ddim am y broses o greu delweddau na’r cysyniad y tu ôl i’r gwaith sy’n cael ei ddal. O gofio hyn, mae’n gadael tipyn o le i ddehongli ac ailddyfeisio’r dyfyniad a hefyd yn cynnig y posibilrwydd o ailddehongli’r ystyr.

Wrth addysgu, yn aml dw i wedi defnyddio mapiau ac yn enwedig mapiau strydoedd a lleoliadau yng nghanol dinasoedd i gynnig cyfeiriad i’r myfyrwyr a sail i gysyniad er mwyn creu ymateb ffotograffig i rywle penodol. Mae hyn yn cynnig y posibilrwydd o ffocysu’ch gwaith ar safle penodol ond hefyd o gadw rhai paramedrau materol a gorfodi rhai cyfyngiadau ar y broses weithio. Dw i’n defnyddio’r atlas strydoedd, AtoZ ar gyfer de Cymru, ac yn ymweld â’r cyfeirnod grid ‘F8’ ar bob tudalen ddwbl. Ar yr un pryd â bod yn amlygiad diriaethol o ‘F8 a byddwch yno’, mae hefyd yn cynnig y posibilrwydd o ganfod ystyr ynglŷn â beth sy’n cysylltu pob gofod a beth allai fod ynddo.

<< Yn ôl tudalen