Y Sgrin

  • Header image

Adele VyeEphemeral Coast

04 Ebrill - 21 Mai 2017

Gwnaed y fideo yma yn rhan o gyfres o weithredoedd yn ymateb i brosiect Ephemeral Coast. Wedi ei ffilmio mewn amodau a chyd-destunau tywydd newidiol, defnyddia’r gweithredoedd yr amgylchedd yn rhan anhepgor o’r gwaith. Mae’r corff newydd o waith yma, Attempts above and below sea level, yn cynnwys gweithredoedd yn system twynydd a phwll Cenfig, uwchben y tref tybiedig sydd wedi ei gladdu ac sydd yn ehangu i geisio gorchuddio’r morful ‘traethol’ concrit yn Aberafon gyda ffabrig du.

Yn ystod Drift Factor mae’r artist yn ceisio gorchuddio ac amddiffyn y twynydd tywod mewn amodau amhosib, yn agos i ystad cyngor Sandfields fe’u adeiladir ar y twynydd a lle tyfodd Vye i fyny. Trwy’r act o geisio cysgodi a cuddio, dengys y ffilm yma oferedd y weithred a dogfenna’r grymoedd sydd ar waith. Wedi ei ffilmio yn ystod storm Doris, ymgorffora’r gwaith yr act o drawsffurfiad. Atseinia’r syniad o ragdeimlad a cholled metamorffosis yr arfordir a dyddiau coll. Mewn gweithredoedd  o golled a gobaith; atgof ac amcan, brwydra’r artist gyda’r gorffennol a beth sydd o’n blaen, ond efallai mwyaf pwysig beth sydd yn digwydd ar hyn o bryd.

Tyfodd Adele Vye i fyny ym Mhort Talbot, De Cymru ac fe astudiodd Celf Gain ym Mhrifysgol Oxford Brooks. Mae Vye wedi ei selio yn ei stiwdio yn Abertawe ynghyd a gweithio allan ar faes. Ymateba ei archwiliadau safle-benodol i gwestiynau amserol artistiaid ac maent yn cymryd ffurf gweithredoedd dogfennol. Fe wobrwywyd Vye gyda’r Wobr John Brookes am Gelf Gain yn 2005 ac Artist y Flwyddyn Cymru am Gyfrwng Amser yn 2009.

 


 

Prosiect ymchwil curadurol yw Ephemeral Coast, www.ephemeralcoast.com wedi ei arwain gan Celina Jeffery. Daw ag artistiaid, ysgrifenwyr a gwyddonwyr newid hinsawdd at ei gilydd i archwilio sut all curadu ddatblygu ystyriaeth o newidiad hinsawdd arfordirol.

Nod Ephemeral Coast yw adnabod yr arfordir fel lleoliad a dangosydd newidiadau daearyddol eithafol sydd yn cymryd lle o ganlyniad i newid amgylcheddol. Mae’n amcanu fod curadu celf gyfoes yn broses unigryw lle efallai gwnawn ni ddarganfod, dadansoddi, ac ail-ddychmygu’r cwestiynu emosiynol sydd yn amgylchynu’r trawsffurfiad ecolegol a diwylliannol yma.

<< Yn ôl tudalen