Cyfnodau Preswyl

  • Header image

Cyfnod Preswyl Digidol: Coleg Gŵyr AbertaweGwobr Jane Phillips

01 Awst - 31 Awst 2022

Mae’n bleser gan Oriel Mission gyhoeddi cyfnod preswyl ar gyfer Myfyriwr Celf a Dylunio Sylfaen Coleg Gŵyr Abertawe. Rydym yn ymfalchïo gweithio gyda Choleg Gŵyr Abertawe ac yn edrych ymlaen at bwysleisio ansawdd y gwaith a gynhyrchir gan fyfyrwyr ym mhob disgyblaeth. 

Mae’r cyfnod preswyl yma yn darparu gwagle ar-lein ar wefan Gwobr Jane Phillips i arddangos a datblygu gwaith, syniadau ac ymchwil, gan gynnig cymorth a hysbysiad trwy ein rhwydweithiau. 

Bydd derbyniwr y Cyfnod Preswyl yn cael ei ddethol gan Rhian Wyn Stone, Cydlynydd Arddangosfeydd a Masnach Oriel Mission ac aelod o bwyllgor Gwobr Jane Phillips.

 

Dyddiadau’r cyfnod preswyl: 01 - 31 Awst 2022

 

 


  

Am Gwobr Jane Phillips

 

Cafodd y wobr ei greu yn 2011 er cof am Jane Phillips (1957 – 2011), cyfarwyddwr cyntaf Oriel Mission. Mae’r wobr yn gymynrodd i angerdd Jane am feithrin talent,  yn gweithio gydag unigolion ar bob lefel - gan gynnig cyfleoedd i fyfyrwyr ag artistiaid ar ddechrau eu taith. Cyfleoedd sydd wedi eu cryfhau trwy gydweithrediad agos gyda thîm Oriel Mission, Coleg Celf Abertawe, PCYDDS ag oriel elysium.

Dan arweiniad Amanda Roderick, cyfarwyddwr cynt Oriel Mission, daeth y wobr yn un rhyngwladol a gyda chymorth pellach y cyfarwyddwyr dilynol Matthew Otten a Ceri Jones, a bwrdd brwdfrydig, mae’r wobr yn datblygu a newid. 

Am fwy o wybodaeth am Gwobr Jane Phillips, ewch i www.janephillipsaward.co.uk 

 

 

<< Yn ôl tudalen