Y Gwneuthurwr

  • Header image

NonY Gwneuthurwr

06 Awst - 24 Medi 2022

Mae fy ymarfer presennol yn archwilio themâu mynegiant cathartig drwy groesawu methiant rhyfedd - y syniad hwn bod bodolaeth ryfedd yn cynnwys methiannau nad oes modd eu hosgoi. Mae materion personol yn cael eu defnyddio i lywio fy ngwaith. Rwy’n gwneud portreadau haniaethol o ofnau a methiannau rwy’n eu profi. Hunanbortreadu a chelfyddyd gosodwaith - dangos amser ac emosiynau’n mynd heibio, bregusrwydd ac arbrofi â thecstilau - cyfyngiadau naratif, emosiynau a myfyrdodau ar bwysau cymdeithasol. 

Drwy gyfrwng cudynnu (tufting) a thecstilau, rwy’n archwilio sut mae amrywiadau i ddyfnder a gwead yn gallu cyfleu emosiwn ac ysbrydoli chwilfrydedd cyffyrddol. Mae fy nefnydd o liw yn portreadu’r emosiynau rwy’n eu teimlo wrth greu. Mae’r palet o liwiau daear naturiol yn pwysleisio’r teimladau amrwd a’r bregusrwydd rwy’n eu teimlo wrth greu’r gwaith.

Mae cyfeiriad y gwaith hwn yn archwilio gosodiad 3 dimensiwn o fyd aflwyddiannus, sy’n caniatáu i ddyluniadau a syniadau cymhleth ddatblygu. Rwy’n creu arddangosfa ryngweithiol a chyffyrddadwy i’r gynulleidfa ymgysylltu â hi – a thrwy hynny ddod yn rhan o’r byd dychmygol.

 

<< Yn ôl tudalen