Yr Oriel

  • Header image
  • Header image
  • Header image
  • Header image
  • Header image
  • Header image

Shape ShiftingPamela Rawnsley

04 Ebrill - 16 Mai 2009

Mae’n bleser gan y Mission Gallery  gyflwyno Arddangosfa Deithiol Canolfan Grefft Rhuthun, sef gwaith  y gemydd a’r gof arian enwog, Pamela Rawnsley.

 

Dyma arddangosfa gyntaf Pamela o weithiau unigol, ac fe’i cyflwynwyd gyntaf yn Rhuthun yr hydref diwethaf.  Mae arddangosfa ar y fath raddfa yn gyfle prin i gof arian, a chwblhawyd y casgliad pwysig hwn  o waith newydd o ganlyniad i grant gan Gyngor Celfyddydau Cymru.  Mae’r gwrthrychau yn yr arddangosfa hon yn gasgliad o lestri a gemwaith wedi’u hysbrydoli gan Fannau Brycheiniog, y dirwedd foel a garw ble mae Pamela yn byw.  Nid yw hi’n dyblygu’i hamgylchoedd, ond yn hytrach  yn defnyddio palet ei thirwedd yn faen prawf – i’w hysbrydoli ac i greu ei  dehongliad ei hun.

Fe’i ganed yn Nyfnaint, ac astudiodd Pamela Rawnsley yn Llundain, ac yna yng Nghaerlŷr, cyn astudio cwrs ôl-raddedig yn Henffordd ar y Mers.  Fe’i hatynwyd i’r gorllewin, i Fannau Brycheiniog gan yr amgylchedd gwyllt, y diwylliant Cymreig a’r lleoliad anghysbell. Mae hi bellach yn byw yno, ac yn gweithio mewn  stiwdio ger bryngaer o’r Oes Haearn.  Iddi hi, ‘nid golygfa wledig heddychlon sydd yn yr ardal, ond un llawn drama’, lle  mae slaesys o fwyn llwytgoch yn torri ar draws cefnau cnwd, cymoedd cudd a llynnoedd mynydd, heulwen ar ddŵr llifeiriol a lliwiau a chyfuchlin sy’n symud wrth i’r cymylau fynd heibio.  Lle sydd yn aml yn brydferth, weithiau’n dychrynu, ond bob amser yn swyno.

Yn yr arddangosfa hon, gall ymwelwyr fyfyrio a chraffu ar grefftwaith cain a manylion gwaith unigryw Rawnsley.  Llestri arian cywrain ag aur cynnes y tu fewn iddynt, sy’n disgleirio wrth i’r golau ar eu hwynebau newid.  Dilyniannau yw gweithiau eraill, â phurdeb fâs arian yn pefrio wrth ei  gosod ger fasau unffurf o liw ocsid amrywiol, neu wedi’u heuro.  Mae Rawnsley yn llwyddo i ddal pŵer a chryfder y tirlun mewn ffurfiau pur, teg a fydd, fel y tirlun, yn goroesi ymhell y tu hwnt i oes dynol ryw.  Bydd yr arddangosfa hon yn hudo pawb, o ddilynwyr celf gymhwysol gyfoes i unrhyw un sydd eisiau gweld gwaith arian gwych sy’n ymgorffori ymateb un o wneuthurwyr blaenllaw Prydain i un o dirweddau mwyaf cymhleth Cymru.

<< Yn ôl tudalen