Yr Oriel

  • Header image

Mini Print Cymru | WalesGweithdy Argraffu Abertawe

30 Medi - 28 Hydref 2023

Agoriad arddangosfa: 2yp, dydd Sadwrn 30 Medi | Croeso i bawb


Mae’r Prosiect Mini Print Cymru | Wales gan Weithdy Argraffu Abertawe wedi ailennyn diddordeb pobl ledled Cymru mewn creu printiau. Mae’r prosiect wedi bod yn cynnal rhaglen drawiadol o weithdai, a’i nod yw datblygu sgiliau ac arbenigedd printwyr newydd, ac ail-ymgysylltu â phrintwyr mwy profiadol ar ôl effaith Covid-19 ar y Celfyddydau. Bydd y prosiect yn rhoi cyfle i’r artistiaid hyn arddangos eu gwaith ochr yn ochr â gwaith ymarferwyr proffesiynol mewn arddangosfa yn Oriel Mission.

Datblygwyd y prosiect drwy’r cyfleuster printio celfyddyd gain yng nghanol dinas Abertawe, ac mae’n cael ei gefnogi gan Gyngor Celfyddydau Cymru ac Ymddiriedolaeth Brycheiniog. Mae’r prosiect hwn wedi cyflwyno’r gwaith o greu printiau fel ffurf gelf hygyrch i gynulleidfaoedd newydd a phenodol yn y gymuned, ac mae wedi annog mwy o amrywiaeth o gyfranogwyr i ddefnyddio’r Gweithdy’n rheolaidd.

Cafodd Andrew Baldwin, Flora McLachlan, Mark Pavey, Judith Stroud a Vintia Voogd eu dewis fel prif artistiaid y prosiect oherwydd eu lefel uchel o arbenigedd technegol a’u gallu i ddysgu pobl eraill. Roedd pob un o’r artistiaid hyn yn edrych ar dechnegau fel ysgythru, cerfluniaeth ac argraffwaith, mewn gweithdai gyda chyfranogwyr o bob lefel mewn amrywiaeth o leoliadau.

Gweledigaeth y prosiect: rhannu’r cyfrwng amlbwrpas hwn, a meithrin sgiliau ac arbenigedd pobl ifanc.

Dull y prosiect: cyflwyno cyfranogwyr i brosesau a dulliau gweithio newydd, a chreu gwaith celf unffurf ar raddfa fach o ran maint. Roedd creu printiau bach - o fewn sgwâr o 10cm x 10cm ar bapur sy’n mesur 18cm x 18cm - yn herio pawb i feddwl yn wahanol am weithio mewn ffurf cyfyng.

Bu aelodau presennol o Weithdy Argraffu Abertawe yn manteisio ar y cyfle i weithio gyda’r artistiaid a benodwyd er mwyn datblygu eu sgiliau a’u hyder, ac i greu ymateb gweledol mewn fformat a oedd yn ymestyn ac yn herio eu harferion arferol. 

‘Yn fwy nag erioed o’r blaen, mae mwy o artistiaid yn cyflawni lefelau newydd o soffistigeiddrwydd drwy greu printiau arbrofol, ac maen nhw’n deall y gwerth y gall cyfryngau printio ei gynnig i’w creadigrwydd. 

Mae’n hynod bwysig i ni feithrin artistiaid o Gymru, rhoi cyfleoedd iddyn nhw ddatblygu eu sgiliau a rhannu eu harbenigedd ag ymarferwyr newydd. Mae trosglwyddo gwybodaeth drwy brosiectau creadigol yn codi dyheadau cyfranogwyr ac yn magu hyder arweinwyr y gweithdai. Mae’n ennyn diddordeb ym maes creadigol, sy’n arwain at gyfleoedd gwirfoddoli a chyflogaeth.’

Sarah Hopkins, Cyfarwyddwr, Gweithdy Argraffu Abertawe

 

—------------------------------------------------------------------------



Mudiad nid-er-elw yw Gweithdy Argraffu Abertawe, sydd â rhwydwaith wedi’i sefydlu o artistiaid a phrintwyr hynod brofiadol. Mae’r Gweithdy’n darparu llu o wasanaethau i brintwyr ar ddechrau eu gyrfaoedd creadigol, ac mae’n cynnig cymorth i artistiaid proffesiynol sy’n datblygu. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i Swanseaprintworkshop.org.uk 

 

Logo Gweithdy Argraffu Abertawe  Logo Brecknock Art TRust

<< Yn ôl tudalen