Yr Oriel

  • Header image

Llif / بہاؤ / Flow

09 Ionawr - 25 Chwefror 2023

Mae Oriel Mission yn falch o gynnal Flow | Llif drwy fis Ionawr a mis Chwefror 2023. Dechreuodd Flow | Llif fel cydweithrediad digidol rhwng artistiaid o Bacistan a Chymru. Bydd y dilyniant yn golygu y bydd rhai o’r artistiaid yn teithio i weithio gyda’i gilydd. 

Fel rhan o hyn, bydd Mission yn cyflwyno arddangosfa o waith newydd a chanfyddiadau ymchwil cydweithredol yr artistiaid. Byddwn hefyd yn cynnal cyfnod preswyl yn yr oriel a fydd yn arwain at berfformiad cyhoeddus ym mis Ionawr ac yn cyflwyno digwyddiadau a gweithgareddau artistiaid, gan gynnwys darlleniadau a gweithdai.

Mae’r gwaith sy’n cael ei rannu ym mis Ionawr a mis Chwefror yn deillio o gydweithrediad digidol y deg artist, eu hymchwil a’u datblygiad ar y cyd o agweddau ar eu harferion creadigol. Mae’n gyfle i rannu’r gwaith newydd hwn â’n cynulleidfaoedd a gwahodd pobl i ryngweithio â’n cymunedau lleol.

Mae’r deg artist yn gweithio gyda’i gilydd mewn partneriaethau creadigol. Mae pob partneriaeth wedi bod yn archwilio meysydd ymarfer gwahanol iawn, gan gynnwys coreograffi a pherfformio, gweithiau sain, traddodiadau tecstilau, ffilmio 3D, barddoniaeth a pheintio.

Dyma'r artistiaid sy’n cymryd rhan:

Ayessha Quraishi a Mererid Hopwood

Maheen Zia a Ingrid Murphy

Rameesha Azeem a Eddie Ladd

Shanzay Subzwari a Lauren Heckler

Zohra Amarta Shah a Llio James

Mae Flow yn brosiect cyffredinol sy’n cynnwys pum menter ymchwil benodol. Er eu bod fel arfer yn gweithio ar wahân i’w gilydd, daeth pum artist o Bacistan at ei gilydd yn benodol i archwilio cysylltiadau diwylliannol gyda phum ymarferydd creadigol o Gymru. Mae pob menter wedi cael ei chyflawni’n ddigidol ac wedi datblygu’n wahanol o ran deinameg.

Mae Flow yn parhau i fod yn gyfrwng ar gyfer ymchwil a datblygiad parhaus y pum artist a fu’n cydweithio â’i gilydd. Erbyn hyn, mae Flow hefyd yn helpu i gyd-greu a chyd-gynhyrchu agweddau ar yr hyn sydd wedi cael ei archwilio rhwng ymarferwyr o Bacistan ac o Gymru.

Mae Oriel Mission yn falch iawn o gael hwyluso a chefnogi’r cydweithio traws-ddiwylliannol archwiliadol hwn.

Mae’r prosiect yn cael ei ariannu gan y Cyngor Prydeinig ac yn rhan o raglen Bacistan/Persbectifau Newydd y DU y Cyngor Prydeinig i ddathlu 75 mlynedd o Bacistan.

 

#PKUKCelebrating75

 

British Council logo    British council Pakistan UK New Perspectives logo    Mission Gallery logo    Llif / Flow logo

<< Yn ôl tudalen