Yr Oriel

  • Header image

Criw Celf y Gorllewin

27 Awst - 10 Medi 2022

Mae Oriel Mission yn arddangos cynnyrch cyffrous eu Rhaglen Addysg nodedig, Criw Celf y Gorllewin. Mae myfyrwyr Mwy Abl a Thalentog 9-18 oed ledled de Cymru wedi ymgymryd â dosbarthiadau meistr mewn Celf a Dylunio yng Ngholeg Celf Abertawe PCYDDS, Coleg Gŵyr Abertawe, ac Oriel Mission. Byddant yn arddangos y gwaith y maent wedi’i gynhyrchu mewn gofod proffesiynol am bythefnos. 

Rhoddwyd y cyfle i’r myfyrwyr i feistroli technegau newydd ac fe’u hanogwyd i edrych ar wahanol feysydd arbenigol i hybu eu brwdfrydedd am yrfa yn y celfyddydau. Daw canlyniadau pob gweithdy at ei gilydd yn yr arddangosfa yma sy’n cloi’r prosiect, gan ddangos taith a datblygiad creadigol y bobl ifanc yma.

 

Criw Celf West logo board

<< Yn ôl tudalen