Yr Oriel
CIVICCuradur gan Bella Kerr
12 Ebrill - 01 Mehefin 2014
Owen Griffiths + Andrew Nixon (Powell Dobson)
Anna Barratt + Penseiri Huw Griffiths
Jason&Becky + Niall Maxwell
Catriona Ryan + Lindsay Halton
facebook.com/collaborativeconversations
Ymholiad o’r ddinas yw CIVIC, gwahoddiad ydyw i gynnig ymyrraeth pensaernïol ac arall ar nifer o leoliadau ar draws Abertawe; proses o arsylwi a mentro gan greu lle dychmygol, crwydrol a chreadigol o fewn yr oriel. Agorir yr arddangosfa ar ddydd Sadwrn 12 Ebrill am 3yp yn Oriel Mission gan y Cynghorydd David Phillips, Arweinydd Cyngor Dinas a Sir Abertawe ac mae’n pahau hyd at Fehefin 1af.
Fel bydd y ddinas yn cael ei holi? Gofynnir i ymarferwyr pensaernïol, gwneuthurwyr, ysgrifenwyr ac artistiaid gynhyrchu neu gynnig ymatebion i leoliad, gan bartneri pensaer gydag ymarferwr arall i bob lleoliad (efallai bydd y term yn cael ei ehangu i ymgorffori’r syniad o ‘rhyng-wagleoedd’ neu dehongliadau eraill).
Cyn yr arddangosfa gwnaeth y penseiri, artistiaid, ysgrifenwyr, academwyr a gwneuthurwyr ‘gerdded a sgyrsio’r’ ddinas a dechreuant ddynesu’r cwestiynau a ymddengys. Bydd pob pâr yn meddiannu gwagle’r oriel am wythnos gan weithredu casgliad eu ymchwil, syniadau a darnau celf.
Bydd yr arddangosfa yn cyfuno cyfrannogwyr gydag ymwybyddiaeth dwfn o’r ddinas, rhai sydd wedi byw a gweithio yn Abertawe dros amser, gydag eraill bydd yn cyflwyno meddwl a syniadau o lefydd eraill. Bydd yr arddangosfa yn cydnabod y sgiliau eisioes yn y ddinas ac yn creu fforwm am drafodaeth rhwng unigolion proffesiynol a rhai sydd â gwybodaeth o tu hwnt. Gan gynnwys rhaglen o ddigwyddiadau, gweithgareddau a gweithdai bydd yn cymryd lle yn yr oriel ac oddi ar y safle, gwahoddiad ydyw i gyfrannu.