Yr Oriel

  • Header image
  • Header image
  • Header image
  • Header image
  • Header image
  • Header image

Boffo DeluxeAnton Goldenstein

23 Mai - 04 Gorffennaf 2009

Mae’n bleser gan Mission Gallery i gyhoeddi agoriad yr arddangosfa Boffo Deluxe gan Anton Goldenstein, sy’n gerflunydd yn bennaf, ond mae ei waith hefyd yn cynnwys peintio, ffotograffiaeth ac ymyrraeth, ac yn ddiweddar, y ddelwedd symudol.

Mae gan Goldenstein ddiddordeb yn ein delfrydau, ein gorchestion a’n dyheadau, yn benthyg ac yn dwyn o hanes a diwylliannau, yn chwarae gyda hanes anthropolegol, a’i ailgyfeirio.  Yn aml, anifeiliaid yw prif gymeriadau ei waith, yn rhoi safle gwrthrychol ar sefyllfaoedd i’r edrychwr, boed yn anifeiliaid Affricanaidd ag i-pods, anifeiliaid yn gwneud celf neu anifeiliaid wedi’u peintio mewn dillad pobl, yn ail-archwilio digwyddiadau hanesyddol allweddol neu’n cyflawni gweithgareddau bob dydd megis ymlacio yn yr haul gyda diod neu’n gwylio’r teledu.  Mae anifeiliaid Goldenstein yn actio opera sebon o flaen ein llygaid; gweithreda’r broses dyneiddiad fel drych yn adlewyrchu gobeithion ac ofnau cymdeithas, ei chyflawniadau balch a’r methiannau y bydd yn ceisio’u hanghofio.

Mae Goldenstein yn gweithio gydag archdeipiau; yn ymwneud â bywyd bob dydd a’r rhannau mae hegemoni ac ysbryd yn eu chwarae wrth effeithio ar ein syniadau a’n bywydau bob dydd.  Mae hiwmor a phathos yn ymddangos yn gyfartal, ac ymdrech i gael ei ddeall yn fyd-eang drwy ddefnyddio ieithoedd uniongyrchol a lliwgar y cyfryngau a hysbysebu.

Yn ei thraethawd, awgryma Helen Jones fod y cymeriadau a’r golygfeydd sy’n cael eu chwarae yng ngwaith Goldenstein yn ffurfio ‘hunanbortread’, ac “adlewyrchiad o safbwynt Goldenstein ar esblygiad a dilysiad ei ymdrechu”.  Ychwanega; “Boed yn cyfleu nodweddion unigol neu safbwynt cyfunol, mae Goldenstein yn archwilio, dwysáu a phrofi ein perthynas â bywyd gwyllt.  Ar yr olwg gyntaf, gall Boffo ymddangos mai adlonni yn unig y gwna, ond y tu hwnt i’r hiwmor dadlenna gryfder cudd natur: ei gallu i ddyfalbarhau drwy drallod.  Mae gan ein cymheiriaid y potensial i’n dysgu ni ymhellach am rythmau naturiol, patrymau diamser a harmoni bywyd bob dydd - petawn ni ond yn stopio a gwrando”.

Artist o Fryste yw Anton Goldenstein.  Wedi cwblhau ei MA ym Mhrifysgol Gorllewin Lloegr ym Mryste, arddangosodd weithiau’n genedlaethol ac yn rhyngwladol, gan gynnwys Lemon Sky Projects ym Miami, Bloomberg New Contemporaries yn Lerpwl, Oriel Mostyn yn Llandudno a hefyd preswyliad ym Maria Kapel Hoorn, yr Iseldiroedd.

<< Yn ôl tudalen