Y Sgrin
Oriel a stiwdios elysium | Proffil Artistiaidy lle [...] a'r Wal Printiau
21 Gorffennaf - 01 Medi 2018
Menter gymdeithasol nid am broffit, wedi ei arwain gan artistiaid, yw oriel elysium sydd yn cynnwys 84 stiwdio i artistiaid dros 3 lleoliad ac oriel gelf gyfoes yng nghanol Dinas Abertawe. Mae oriel elysium yn anelu at gynnig cymorth i artistiaid ymddangosedig a sefydlog ynghyd ac annog balchder a chyfrannu yng nghelfyddydau gweledol a chymhwysol mewn amgylchedd sydd yn annog arbrofi, rhyddid a gwerthfawrogiad ym mhob ymarfer creadigol.
Ffurfia’r stiwdios gymuned artistig sydd yn galluogi artistiaid ac oriel elysium gefnogi ei gilydd trwy drafodaethau critigol, cyfleoedd preswyl wrth ffurfio cydweithrediad a rhannu sgiliau ymarferol. Mae’r stiwdios yn annog profiad cydweithredol a phrofiad cyfrannol gan greu hwb lliwgar a chreadigol gan annog datblygiad modelau busnes am gynaladwyedd artistig gan gyfrannu i’r economi lleol a chynnal artistiaid yn Abertawe.
Jonathan Powell, Cyfarwyddwr oriel a stiwdios elysium gallery.
Yr artistiaid dethol yw:
y lle [...] :
Mark Folds
Lauren Heckler
Kelly Payne
Kathryn Anne Trussler
Wal Printiau:
Eifion Sven-Myer
Philip Cheater
Carys Evans
Steph Mastoris
Eifion Sven-Myer
Euros Rowlands
Delwedd: Invisible Barrier, Mark Folds