Y Sgrin

  • Header image

Iaith Claiy lle [...]

08 Ionawr - 26 Ionawr 2019

 

Wrth edrych ymlaen at yr arddangosfa nesaf yn y rhaglen Iaith Clai, ‘Gweledig ac anweledig’ gan Ingrid Murphy i agor ar ddydd Sadwrn 2 Chwefror, edrychwn yn ol ar y rhai ar yr artistiaid sydd wedi cyfrannu i’r gyfres hyd yn hyn, a’r rheini sydd o hyd i’w mwynhau.

Prosiect parhaol yw Iaith Clai sydd yn dathlu amrywiaeth ymarfer serameg cyflawnedig. Cyflwyna cyrff newydd o waith gan artistiaid cyfoes dethol gydag ymarfer stiwdio yng Nghymru.

Ymdrin pob artist â’r cyfrwng gyda gwahanol bersbectifau, profiadau a sgiliau. Mae ymarfer serameg yn ddiddiwedd yn ei bosibiliadau creadigol. Fel deunydd organig, ymateba clai yn ddeinamig i wahanol ffyrdd a thriniaeth. Yr ansawdd yma sydd yn ei wneud mor gyfareddol a heriol i weithio gyda. O fewn maes sydd yn gryf yma yng Nghymru, mae’r artistiaid yn arddangos ymarferiad unigol.

Trefnir Iaith Clai gan Oriel Mission yn Abertawe ac fe’i ddarparir mewn partneriaeth â Chanolfan Grefft Rhuthun, Canolfan Gelfyddydau Llantarnam Grange ac Oriel Serameg Aberystwyth. Ariennir y prosiect gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

Mae’r prosiect yn cynnwys arddangosfeydd unigol teithiol. Ceir deunydd dehongli, cyhoeddiadau, casgliad trin a rhaglenni cyfrannu i gydfynd â’r rhain. Trwy weithgareddau prosiect, gobeithiwn ganu clod clai ac arwyddocâd enfawr serameg yn ein bywydau. Llwyfan ymholiad a darganfyddiaeth yw Iaith Clai. Gwahoddiad ydyw, ymddiriedwn, i fwy o bobl ymuno â’r sgwrs.

 

Rhan Un

Cawsom ein swyno gan ddarnau serameg ffigurol Anna Noël yn y ffordd yr oeddynt yn dweud hanesion. Daeth potiau Micki Schloessingk a oedd wedi’u tanio â choed, â phleser bob dydd wrth eu defnyddio. Daeth Anne â bywyd llonydd i ni mewn ffurf finiatur fydd wedi’i gyfansoddi’n dawel.

 

Rhan Dau

Mae’r tri artist y byddwn yn mwynhau eu gwaith yn y gyfres hon, Justine Allison, Ingrid Murphy a Kate Haywood, yn arbenigwyr yn yr arfer serameg. I bob un ohonyn nhw, clai yw’r deunydd sylfaenol: deunydd y maen nhw’n ei adnabod yn sylfaenol dda ac y bydd pob un yn gweithio ag o mewn ffyrdd dihafal.

Gyda’r cydbwysedd rhwng ymarferol a cherfluniol, daw arfer Justine â llestri porslen gwerthfawr i ni – rhai sy’n cipio’r golau. Bydd Ingrid yn cael hwyl yn gwthio ffiniau technoleg yn ei gwaith. Gan integreiddio adnoddau technolegol sy’n symud ymlaen o hyd yn ei ffurfiau serameg, bydd Ingrid yn defnyddio eitemau cyfarwydd i ddadorchuddio hanes anaratif. Bydd Kate yn creu ffurfiau cerfluniol gorfanwl. Ymchwil sy’n gyrru ei harfer cysyniadol ac mae’n drefnus. Wedi’i gyfuno ag estheteg goeth, gwneir ei gwaith yn farddol gan drachywiredd ei phroses.

Bydd yr arddangosfeydd Iaith Clai’n teithio lleoliadau ledled Cymru yn ystod 2018–2019. Gyda rhaglenni o weithgaredd yn cyd-deithio â nhw, maen nhw’n rhoi cyfleoedd i ni ehangu ymhellach yr ystyriaeth o arfer serameg ac i gyfarfod rhai o’n hartistiaid serameg ardderchog.

 

 

 

<< Yn ôl tudalen