Y Sgrin

  • Header image

Geraint Rhys In the Footsteps of Ghosts

29 Medi - 14 Tachwedd 2020

 

Cerddor a gwneuthurydd ffilmiau o Abertawe yw Geraint Rhys y mae ei waith yn ymdrin ag ymdeimlad â lle. Yn y ffilm hon, mae Geraint yn chwilio am beth mae hyn yn ei olygu i bobl eraill wrth iddo gyfweld ag un o ffigurau blaenllaw celfyddyd gyfoes Rwsia, Pavel Otdelnov. Mae gwaith Pavel yn mynd i’r afael â bywyd yn tyfu i fyny ar ganol tirweddau ôl-ddiwydiannol Dzerzhinsk, lle mae llawer o hen ffatrïoedd cemegol sy’n parhau i effeithio ar yr amgylchedd o’u cwmpas. Drwy ei baentiadau, mae Pavel yn ymdrin â syniadau o hiraeth am yr hyn a fu, teulu, difrod amgylcheddol ac ymdeimlad dwys â cholled.

Mae In The Footsteps of Ghosts yn mynd â ni i stiwdio Pavel ym Mosgo wrth iddo ddisgrifio i ni’r ysbrydoliaeth y tu cefn i lawer o’i weithiau. Mae gwaith Geraint ei hun gan gynnwys ei ddarn ‘Ta Ta Tata’ wedi edrych ar orffennol diwydiannol Cymru a thrwy’r ffilm yma roedd am edrych nid yn unig ar feddwl a gwaith yr artist ond hefyd fyfyrio ar y berthynas rhwng cymdeithas â lleoedd ôl-ddiwydiannol.

twitter - @geraintrhys1

Delwedd: Elena Mihailichenko



<< Yn ôl tudalen