Y Sgrin
Edward Rhys Jonesy lle [...]
13 Hydref - 17 Tachwedd 2018
Mewn partneriaeth â Choleg Celf Abertawe PCDDS
Artist a dylunydd yw Edward Jones sy’n gweithio o Abertawe a Bryste. Ac yntau’n cael ei sbarduno gan ddiddordeb mawr mewn dulliau o gynrychioli, efelychu a chyfryngu, cred Edward Jones fod rhywbeth annatod ym mhriodweddau materol gwydr y gellir tynnu arnynt i gwestiynu ein lluniad o realiti sydd fwyfwy’n cael ei gyfryngu.
Ymhellach i ddealltwriaeth o waith Edward Jones mae tair ystyriaeth bwysig:
– Yn gyntaf, yr ysgogiad dynol sydd i’w weld yn reddfol i gynrychioli, adlunio ac atgynhyrchu agweddau presennol ar y byd materol – a hynny ar ffurf sy’n ymdebygu fwyfwy iddynt.
– Yn ail, y berthynas rhwng y cynrychiolaethau hyn a’u tarddiad; neu’n fwy penodol, y trothwy lle mae’r realiti faterol yr ydym yn byw drwyddi ac sy’n datblygu dros amser yn cwrdd â fersiwn o’r realiti honno sydd fwyfwy’n cael ei thrin a’i thrafod, ei chyfryngu a’i hailgyflwyno.
- Ac yn drydydd, sut mae’r profiadau cyfryngedig hyn o gynrychiolaethau’n bwydo’n ôl i’n profiad o’r realiti faterol yr ydym yn byw drwyddi a sut maent yn effeithio arni.
Cwblhaodd Edward breswyliad haf yn adeilad ALEX, Coleg Celf Abertawe PCDDS a dyma ganlyniadau’r preswyliad.
Remote View
2018
Fideo Digidol Safle-benodol
Mae’r gwaith newydd hwn a wnaed yn benodol ar gyfer y gofod [..] yn edrych ar y parth trothwyol ar y ffin rhwng ein profiad o ffenomenâu materol yr ydym yn byw drwyddo a’n profiad o ddigwyddiadau o bell drwy gyfrwng sgriniau. Mae delwedd o blentyn yn dod i mewn i’r ffrâm o hyd ac o hyd o islaw’r sgrin, gan neidio mewn ymgais taer i gyrraedd y rheolydd o bell sy’n eistedd ar ben y sgrin, gwrthrych ‘go iawn’ yn ein gofod materol. Ei dynged yw aros yn gaeth, yn methu estyn dros y trothwy o’r byd delweddau i fyd materol ymgorfforedig gwrthrychau ac ymryddhau.
Ynghylch Gwobr Jane Phillips:
I fentora, meithrin a chefnogi twf artistig proffesiynol artistiaid sy’n dod i’r fei neu sydd ar ddechrau eu gyrfa ar draws y Celfyddydau Gweledol a Chymhwysol. Mae Gwobr Jane Phillips er cof am gyfarwyddwr cyntaf Oriel Mission, Jane Phillips (1957-2011).
Wedi’i lansio yn Oriel Mission yn 2011, bwriedir y wobr er cof am frwdfrydedd ysol Jane am fentora a meithrin doniau gan gefnogi o hyd artistiaid sy’n dod i’r fei neu sydd ar ddechrau eu gyrfa ar draws y Celfyddydau Gweledol a Chymhwysol yng Nghymru a thu hwnt.
Mae Gwobr Jane Phillips wedi bod yn llwyddiannus ac yn esblygu gan ymateb i’r gymuned artistig ac yn ffurfio partneriaethau newydd.
Am fwy o wybodaeth, cliciwch yma