Cyfnodau Preswyl

  • Header image

Codi'r Bar 2015/2016

04 Mehefin - 03 Gorffennaf 2016

Rhagarddangosfa | 2yp – 4yp Dydd Safwrn 11fed Mehefin

I’w agor gan Ian Walsh, Llywydd Cyfadran Celf a Dylunio yng Ngholeg Celf Abertawe, UWTSD

Cyniga Codi’r bar gyfle i ddisgyblion sydd yn astudio addysg uwch ennill profiad helaeth o gelfyddydau gweledol a chymhwysol. Wrth ochr eu haddysg BTEC, AS a Lefel A maent yn gallu cymryd rhan mewn saith dosbarth arbenigol yng ngholeg Celf Abertawe, UWTSD. Mae’r bartneriaeth wedi darparu offer arbenigol ac arbenigedd, gan alluogi Oriel Mission a’r artistiaid ddyfeisio a chynnig gweithdai i safon uchel. Rhy gyfleoedd i ddisgyblion weithio wrth ochr artistiaid a dylunwyr proffesiynol mewn cyfres o ddosbarthiadau arbenigol mewn amryw o bynciau. Galluogodd hyn i ddisgyblion ddysgu technegau newydd, wrth feithrin talent ac annog eu brwdfrydedd am yrfa o fewn gelfyddyd, gan eu troi’n artistiaid neu ddylunwyr y dyfodol. Daw canlyniadau pob gweithdy Arlunio, Ffasiwn a Thecstilau, Pensaernïaeth, Gwydr, Ffotograffiaeth, Curadu ac Ymarfer Celf Gyfoes at ei gilydd yn yr arddangosfa terfyn prosiect yma, gan ddangos taith a datblygiad creadigol y pobl ifanc yma.

<< Yn ôl tudalen