Cyfnodau Preswyl

  • Header image

Iaith ClaiJustine Allison yng Nghanolfan Grefft Rhuthun

14 Ebrill - 15 Gorffennaf 2018

Llinellau Newidiol | Oriel 2, Canolfan Grefft Rhuthun

 
Curadwyd gan Ceri Jones

 

"Mae seramegau Justine Allison wedi’u gwneud yn gelfydd, maen nhw’n ddrudfawr i’w cyffwrdd ac yn hyfrydwch i’r llygad." Yr Athro Moira Vincentelli

Mae Justine â’i hiaith clai ei hun. Yn cydbwyso rhwng ymarferol a cherfluniol mae ei harfer serameg yn gyfoethog ac yn wreiddiol. Gyda dealltwriaeth ddwys o’i defnyddiau ac estheteg weledol wedi’i fireinio, y ffurfir llestri Justine. Mae’n gymaint o bleser cael y sioe solo yma gan Justine yn arddangosfa agoriadol ail gyfres Iaith Clai. Mae’n ehangu’r ddeialog a gyflwynwyd drwy’r gyfres gyntaf ac yn dathlu arbenigedd hynod. Ceri Jones, Curadur yr Arddangosfa.

Mae'n bleser gan Oriel Mission barhau ei gyfres o arddangosfeydd cenedlaethol teithiol. Yn dilyn llwyddiant rhan un, mae Iaith Clai: Rhan Dau yn cynnwys tri arddangosfa pellach o waith gan artistiaid cyfoes dethol gydag ymarfer stiwdio yng Nghymru. Mae Iaith Clai wedi ei drefnu gan Oriel Mission yn Abertawe a'i gyflwyno mewn partneriaeth â Chanolfan Grefft Rhuthun, Canolfan Gelfyddydau Llantarnam Grange ac Oriel Serameg Aberystwyth. Ariennir y prosiect gan Gyngor Celfyddydau Cymru  a'i guradu gan Ceri Jones.

 

Am fwy o wybodaeth ar arddangosfa Justine yng Nghanolfan Grefft Rhuthun, cliciwch yma

Am fwy o wybodaeth am y prosiect, cliciwch yma

 

Delwedd: Toril Brancher

<< Yn ôl tudalen