I Blant
Sesiwn Dawel: Gweithdy i'r teulu – Tai Bwganod ac addurniadau corynnod
31 Hydref - 31 Hydref 2025
Dydd Gwener 31ain Hydref
2pm-3pm | 7+ | £7
Sesiwn Dawel: Gweithdy i'r teulu – Tai Bwganod ac addurniadau corynnod
Mae’r gweithgareddau hyn wedi’u cynllunio i ddarparu ar gyfer unrhyw un sydd ag awtistiaeth neu anawsterau dysgu. Maent yn cynnwys fersiwn personol a hyblyg o weithdy’r bore, yn ogystal â llai o olau a sain yn yr oriel. Mae’r grwpiau’n llai a gofynnir i rieni fynychu a mwynhau’r sesiynau llai prysur hyn. Dim ond tocyn ar gyfer pob plentyn sy’n mynychu y mae angen i chi ei archebu.
Gweithdy i'r teulu – Tai Bwganod ac addurniadau corynnod
A Sesiwn Dawel
Cafodd ein horiel ei hadeiladu yn y 1800au felly rydyn ni’n eithaf siŵr bod straeon arswyd yn perthyn i’r hen le. Ydych chi’n hoffi chwarae castiau neu ydych chi angen y prop perffaith ar gyfer eich stori arswyd? Dan we pry cop a gydag ysbrydion o’ch cwmpas, gallwch chi wneud crefftau tymhorol gyda ni gyda thai bwganod cardfwrdd sy’n siŵr o godi braw...
Byddwn yn darparu’r holl ddeunyddiau.
Via Eventbrite:Gweithdy i'r teulu – Tai Bwganod ac addurniadau corynnod
Oherwydd capasiti ein lleoliad, mae lleoedd yn brin. Os byddwch yn cadw lle yn un o'n gweithdai, gofynnwn i chi gadw at eich ymrwymiad i fod yn bresennol.
Rydym eisiau i’n gweithdai fod mor hygyrch â phosibl ond rydym yn gofyn i chi roi cyfraniad ariannol ar y diwrnod os gallwch chi. Ystyriwch gyfrannu os gallwch chi er mwyn cefnogi’r gweithdai a’r rhaglenni addysg yn Oriel Mission yn y dyfodol.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â
Safiyyah Altaf,Swyddog Creadigol Allgymorth,outreach@missiongallery.co.uk ar 01792 652016
Megan Leigh, Cydlynydd Dysgu ac Ymgysylltu, ar 01792 652016 neu anfonwch e-bost at megan@missiongallery.co.uk
Rhowch wybod i ni am unrhyw ofynion o ran mynediad, alergeddau neu gyflyrau meddygol.
O ran mynediad, mae un gris o’r palmant i lawr ein prif fynedfa.
Cynhelir y gweithdai yn y gofod addysg ar lawr cyntaf yr oriel.
Oherwydd cyfyngiadau’r adeilad, mae mynediad i’r ystafell addysg ar y llawr cyntaf ar risiau serth.
Mae staff wrth law i roi cymorth os oes angen.
