I Blant

  • Header image

Pwmpenni Hydrefol ac Ysbrydion Ceramig gyda Hannah Sharpe

18 Hydref - 18 Hydref 2025

Pwmpenni Hydrefol ac Ysbrydion Ceramig gyda Hannah Sharpe

Dydd Sadwrn 18 Hydref

11am-1pm | £25 | Gweithdy pobl ifanc|12-16 Oed

Darperir lluniaeth

*Nodyn: Pan fyddwch yn dod at y dudalen taliad fe fydd eventbrite yn ychwanegu ffi ychwanegol. I osgoi hwn, cysylltwch gyda'r oriel yn uniongyrchol a bwcio dros y ffôn

 Eventbrite:

Bywgraffiad o’r artist

Ers iddi raddio mewn Crefftau Dylunio 3D o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn 2023, mae Hannah wedi bod yn canolbwyntio ar gynnal gweithdai cerameg yn Abertawe a’r gymuned ehangach ac wedi cael cymorth busnes gan Ymddiriedolaeth y Brenin a Busnes Cymru.

Mae hi wedi cynnal gweithdai ar gyfer Cyngor Castell Nedd Port Talbot mewn canolfannau cymunedol ac orielau gan roi cyfle i gymunedau llai greu gyda chlai. Bwriad y gweithdai yw hyrwyddo creadigrwydd a llesiant cadarnhaol gan annog y rhai sy’n cymryd rhan i ddefnyddio’u crefft.


Crynodeb o’r Gweithdy

Yn ystod y gweithdy hwn, byddwn ni’n creu pwmpenni ac ysbrydion allan o glai gan ddefnyddio techneg pinsio. Yna, byddwch yn cael cyfle i ychwanegu manylion personol at eich creadigaeth gyda phaent arbennig ar gyfer clai.

Byddwn ni’n treulio hanner cyntaf y gweithdy yn creu pwmpenni, ac yna’n creu ysbrydion yn yr ail hanner, bydd egwyl am hanner rhwng y ddwy sesiwn.

Bydd Hannah yn tanio ac yn rhoi sglein ar y darnau, a byddant yn barod i gael eu casglu o'r oriel ar ddyddiad diweddarach

 

--

Nid oes angen profiad blaenorol, a bydd yr holl ddeunyddiau’n cael eu cynnwys fel rhan o’r gweithdy.

Mae gweithdai o ansawdd uchel sy’n cael eu harwain gan artistiaid yn ganolig i’r gwaith rydyn ni’n ei wneud yma yn Oriel Mission. Mae pob tocyn sy’n cael eu prynu’n cyfrannu at ein Rhaglen Allgymorth, ac mae’n cefnogi iawndal teg i’n hartistiaid talentog.

Oherwydd capasiti ein lleoliad, mae lleoedd yn brin. Os byddwch yn cadw lle yn un o'n gweithdai, gofynnwn i chi gadw at eich ymrwymiad i fod yn bresennol.

Rydym eisiau i’n gweithdai fod mor hygyrch â phosibl ond rydym yn gofyn i chi roi cyfraniad ariannol ar y diwrnod os gallwch chi. Ystyriwch gyfrannu os gallwch chi er mwyn cefnogi’r gweithdai a’r rhaglenni addysg yn Oriel Mission yn y dyfodol.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â

Safiyyah Altaf,Swyddog Creadigol Allgymorth,outreach@missiongallery.co.uk ar 01792 652016

Megan Leigh, Cydlynydd Dysgu ac Ymgysylltu, ar 01792 652016 neu anfonwch e-bost at megan@missiongallery.co.uk

Rhowch wybod i ni am unrhyw ofynion o ran mynediad, alergeddau neu gyflyrau meddygol.

O ran mynediad, mae un gris o’r palmant i lawr ein prif fynedfa.

Cynhelir y gweithdai yn y gofod addysg ar lawr cyntaf yr oriel.

Oherwydd cyfyngiadau’r adeilad, mae mynediad i’r ystafell addysg ar y llawr cyntaf ar risiau serth.

Mae staff wrth law i roi cymorth os oes angen.

<< Yn ôl tudalen