I Blant

  • Header image

Parti Celf AgoredOriel Mission

31 Ionawr - 31 Ionawr 2026

Parti Celf Agored

Dydd Sadwrn 31ain Ionawr

10yb- 11:30yb| Gweithdai I Blant 7 Oed |£5|

 

Parti Celf Agored

Rydyn ni eisiau rhannu'r hwyl anhygoel sydd i gael yn yr oriel pan fyddwch chi'n archebu parti Celf yn ein gofod gweithdy. Yn y parti celf agored hwn, mae pawb yn cael gwahoddiad i'r oriel i gymryd rhan yn ein gweithdy creadigol ar gastio cerameg. Ewch ati i greu dyluniad unigryw mewn clai a gwylio sut mae eich dyluniad yn dod yn fyw. Gallwch addurno eich darn mewn ffrâm drwy ddefnyddio dyfrlliwiau a ffoil aur. Dysgwch sgìl newydd, mwynhewch a dysgwch sut beth fyddai eich parti celf eich hun.

 Eventbrite: Parti Celf Agored

Oherwydd capasiti ein lleoliad, mae lleoedd yn brin. Os byddwch yn cadw lle yn un o'n gweithdai, gofynnwn i chi gadw at eich ymrwymiad i fod yn bresennol.

Rydym eisiau i’n gweithdai fod mor hygyrch â phosibl ond rydym yn gofyn i chi roi cyfraniad ariannol ar y diwrnod os gallwch chi. Ystyriwch gyfrannu os gallwch chi er mwyn cefnogi’r gweithdai a’r rhaglenni addysg yn Oriel Mission yn y dyfodol.

 

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Megan Leigh, Cydlynydd Dysgu ac Ymgysylltu, ar 01792 652016 neu anfonwch e-bost at megan@missiongallery.co.uk

Rhowch wybod i ni am unrhyw ofynion o ran mynediad, alergeddau neu gyflyrau meddygol.

O ran mynediad, mae un gris o’r palmant i lawr ein prif fynedfa.

Cynhelir y gweithdai yn y gofod addysg ar lawr cyntaf yr oriel.

Oherwydd cyfyngiadau’r adeilad, mae mynediad i’r ystafell addysg ar y llawr cyntaf ar risiau serth.

Mae staff wrth law i roi cymorth os oes angen.

<< Yn ôl tudalen