I Blant
Masgiau Calan Gaeaf ac Addurno Cerrig Mwclis Pom Pom
26 Hydref - 26 Hydref 2024
Dydd Sadwrn 26 Hydref
11am-12:30pm | 7+ | Croeso i chi roi cyfraniad ariannol ar y diwrnod
Masgiau Calan Gaeaf ac Addurno Cerrig Mwclis Pom Pom
Ymunwch â ni yn yr oriel i greu ac addurno eich masgiau calan gaeaf eich hun. Chi sy’n penderfynu beth fydd eich gwisg ffansi calan gaeaf. Fyddwch chi’n ddraig ffyrnig neu’n arch-arwr o ffilm? Cewch gyfle hefyd i beintio cerrig lliwgar i’w gwasgaru o amgylch eich cartref a’ch gerddi. Mae dathlu’r goleuni yn bwysig iawn i lawer o gymunedau yr adeg hon o'r flwyddyn. Ymunwch â ni yn yr oriel i greu mwclis pom pom ar ffurf blodau lliwgar i ddod â lliw a llawenydd i unrhyw ddathliad.
Eventbrite: Masgiau Calan Gaeaf ac Addurno Cerrig Mwclis Pom Pom
Byddwn yn darparu’r holl ddeunyddiau.
Oherwydd capasiti ein lleoliad, mae lleoedd yn brin. Os byddwch yn cadw lle yn un o'n gweithdai, gofynnwn i chi gadw at eich ymrwymiad i fod yn bresennol.
Rydym eisiau i’n gweithdai fod mor hygyrch â phosibl ond rydym yn gofyn i chi roi cyfraniad ariannol ar y diwrnod os gallwch chi. Ystyriwch gyfrannu os gallwch chi er mwyn cefnogi’r gweithdai a’r rhaglenni addysg yn Oriel Mission yn y dyfodol.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Megan Leigh, Cydlynydd Dysgu ac Ymgysylltu, ar 01792 652016 neu anfonwch e-bost at megan@missiongallery.co.uk
Rhowch wybod i ni am unrhyw ofynion o ran mynediad, alergeddau neu gyflyrau meddygol.
O ran mynediad, mae un gris o’r palmant i lawr ein prif fynedfa.
Cynhelir y gweithdai yn y gofod addysg ar lawr cyntaf yr oriel.
Oherwydd cyfyngiadau’r adeilad, mae mynediad i’r ystafell addysg ar y llawr cyntaf ar risiau serth.
Mae staff wrth law i roi cymorth os oes angen.
