I Blant

  • Header image

Gwneud PrintiauGweithdy i Blant

17 Ebrill - 17 Ebrill 2021

Gwneud printiau | Dydd Sadwrn 17 Ebrill | 10.30yb – 12yp | 9+ | Ar-lein Zoom | Am ddim

 

Ymunwch â ni yn Oriel Mission ar gyfer gweithdy gwneud printiau ar-lein.

 

Er bod yr Oriel ar gau o hyd, gallwn ni gwrdd yn rhithiol i arbrofi â gwahanol dechnegau gan ddefnyddio ambell beth sydd gynnoch chi gartre. Cyfle i gael hwyl wrth ddefnyddio lliw a gwneud marciau i ddysgu sut i greu’ch monobrintiau difyr eich hun.

  

Eventbrite: Gwneud Printiau

 

Y deunyddiau y bydd eu hangen arnoch chi:

Ffoil

Arwyneb y gallwch ei olchi. Gallech ddefnyddio darn o blastig neu hambwrdd.

2 ddarn o gerdyn neu gardbord maint A4 fan leiaf (gallwch ddefnyddio deunydd pacio cardbord neu ddeunyddiau pacio bwyd)

Paent acrylig

Brwshis paent gan gynnwys brwsh mawr

Papur (gall hyn gynnwys amrywiaeth o liwiau a gweadau os ydyn nhw gynnoch chi neu bapur rydych chi’n mynd i’w ailgylchu) 

Siswrn

Glud

Pethau ar gyfer gwneud marciau, e.e. brwshis, byds cotwm, priciau pren crefft, brwsh dannedd, darnau o ddefnydd (dewch â beth bynnag sydd gynnoch chi!)

 

Gwnewch yn siŵr fod y deunyddiau uchod gynnoch chi yn barod cyn y gweithdy. 

Nifer y lleoedd yn gyfyngedig, rhaid archebu lle ymlaen llaw.

Rhowch wybod i ni am unrhyw anghenion o ran mynediad. 

Am wybodaeth bellach cysylltwch â Megan Leigh, Cydlynydd Dysgu ac Ymgysylltu, megan@missiongallery.co.uk

<< Yn ôl tudalen