I Blant
Gweithdy paentio teuluol dwyieithogOwain Sparnon
12 Hydref - 12 Hydref 2024
Dydd Sadwrn 12 Hydref 2024
I deuluoedd â phlant 6-12 oed
11yb - 12yh
Am ddim*
*Gofynnir am flaendal o £5 er mwyn cadw lle, i’w ad-dalu i chi ar y diwrnod, neu i’w adael fel rhodd i raglen Allgymorth ac Arddangosfeydd Oriel Mission.
Ymunwch â ni am weithdy dwyieithog i'r teulu lle byddwn yn creu paentiad yn ymateb i amrywiaeth o genres cerddoriaeth trwy farciau, haenau a lliw!
Eventbrite: Gweithdy paentio teuluol dwyieithog
Bydd y gweithdy yma yn cael ei arwain gan yr artist Owain Sparnon a'i ddosbarthu yn Saesneg a Chymraeg. Bydd y sesiwn yn darparu lle diogel, creadigol i deuluoedd sydd yn dysgu Cymraeg neu sydd am fwynhau'r cyfle i ymarfer.
Mewn partneriaeth gyda gwobr paentiadau plant BEEP 2024
Oherwydd capasiti ein lleoliad, mae lleoedd yn brin. Os byddwch yn cadw lle yn un o'n gweithdai, gofynnwn i chi gadw at eich ymrwymiad i fod yn bresennol.
Rydym eisiau i’n gweithdai fod mor hygyrch â phosibl ond rydym yn gofyn i chi roi cyfraniad ariannol ar y diwrnod os gallwch chi. Ystyriwch gyfrannu os gallwch chi er mwyn cefnogi’r gweithdai a’r rhaglenni addysg yn Oriel Mission yn y dyfodol.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Megan Leigh, Cydlynydd Dysgu ac Ymgysylltu, ar 01792 652016 neu anfonwch e-bost at megan@missiongallery.co.uk
Rhowch wybod i ni am unrhyw ofynion o ran mynediad, alergeddau neu gyflyrau meddygol.
O ran mynediad, mae un gris o’r palmant i lawr ein prif fynedfa.
Cynhelir y gweithdai yn y gofod addysg ar lawr cyntaf yr oriel.
Oherwydd cyfyngiadau’r adeilad, mae mynediad i’r ystafell addysg ar y llawr cyntaf ar risiau serth.
Mae staff wrth law i roi cymorth os oes angen.