I Blant
Ffeltio
25 Hydref - 25 Hydref 2025
Dydd Sadwrn 25ain Hydref
11am-12:30pm | 7+ | £7| I Blant
Ffeltio
Mae ffeltio yn broses ymarferol wych lle rydych yn clymu ffibrau gwlân naturiol at ei gilydd i greu darn hardd o ffabrig. Byddwn yn gweithio tuag at greu creadigaethau ffynci ffelt yn y gweithdy hwn.
Oherwydd capasiti ein lleoliad, mae lleoedd yn brin. Os byddwch yn cadw lle yn un o'n gweithdai, gofynnwn i chi gadw at eich ymrwymiad i fod yn bresennol.
Rydym eisiau i’n gweithdai fod mor hygyrch â phosibl ond rydym yn gofyn i chi roi cyfraniad ariannol ar y diwrnod os gallwch chi. Ystyriwch gyfrannu os gallwch chi er mwyn cefnogi’r gweithdai a’r rhaglenni addysg yn Oriel Mission yn y dyfodol.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch
Safiyyah Altaf Swyddog Creadigol Allgymorth:Outreach@missiongallery.co.uk ar 01792 652016
â Megan Leigh, Cydlynydd Dysgu ac Ymgysylltu, ar 01792 652016 neu anfonwch e-bost at megan@missiongallery.co.uk
Rhowch wybod i ni am unrhyw ofynion o ran mynediad, alergeddau neu gyflyrau meddygol.
O ran mynediad, mae un gris o’r palmant i lawr ein prif fynedfa.
Cynhelir y gweithdai yn y gofod addysg ar lawr cyntaf yr oriel.
Oherwydd cyfyngiadau’r adeilad, mae mynediad i’r ystafell addysg ar y llawr cyntaf ar risiau serth.
Mae staff wrth law i roi cymorth os oes angen.
