I Blant
Dewch i wneud eich addurn eich hun gyda'r artistiaid Lowri Ann, Lisa Burkl a Weixin Liu-Penwythnos Celfyddydau Abertawe
11 Hydref - 12 Hydref 2025
Dewch i wneud eich addurn eich hun gyda'r artistiaid Lowri Ann, Lisa Burkl a Weixin Liu
Dydd Sadwrn 11 a dydd Sul 12 Hydref 2025
Gweithdy i deuluoedd | Am ddim | 1.5 awr
Mae'r gweithdy hwn yn rhan o Benwythnos Celfyddydau Abertawe, dathliad Cyngor Abertawe o gelf ar hyd a lled y ddinas. Mae Oriel Mission yn eich gwahodd i ddathlu popeth sy'n ymwneud â chrefft – boed hynny'n arbrofi gyda sgiliau crefft treftadaeth neu brosesau newydd, gobeithio y gwnewch chi fwynhau!
1 tocyn i bob teulu. Uchafswm o 4 aelod o'r teulu fesul tocyn.
Slot 1: 10am- 11:30am
Slot 2: 12pm- 1:30pm
Slot 3: 2:30pm- 4pm
Archebwch docynnau:Dewch i wneud eich addurn eich hun
* Archebwch eich lle trwy'r wefan allanol Visit Swansea Bay, sydd yn rhan o Benwythnos Celfyddydau Abertawe. Defnyddiwch y linc isod i gadw eich lle. Er gwybodaeth, nid oes gan Oriel Mission mynediad i'r system archebu ac felly nid ydym yn gallu cynorthwyo ceisiadau; am ymholiadau i ymwneud ac argaeledd, cysylltwch â Visit Swansea Bay.
Crynodeb
Ymunwch â ni am weithdy llawn hwyl i'r teulu cyfan! Gan weithio gyda 3 artist gwahanol, cewch gyfle i arbrofi gyda nifer o dechnegau crefft (fel gwifrau, gwydr a phapur) wrth greu eich addurn, neu’ch ‘symudyn’, unigryw eich hun. Ac fe gewch chi fynd â hwn adref gyda chi i’w hongian yn falch yn y ffenestr neu yn y tŷ.
Bywgraffiadau’r Artistiaid
Lowri Ann
Artist amlddisgyblaethol sydd â gradd BA mewn Celfyddyd Gain o Goldsmiths yw Lowri. Daw’n wreiddiol o Abertawe ac yno y mae hi’n gweithio. Ysbrydolir ei gwaith gan ei threftadaeth Gymreig, ac mae’n archwilio ffeministiaeth, gwleidyddiaeth, cymuned, hanes a thraddodiad.
Mae ei phrosiect 'Malurion' yn deillio o'r traddodiad o gerfio 'llwyau cariad’, gan annog cynulleidfaoedd i greu eu ‘llwy gariad’ eu hunain fel modd o ailddarganfod ac ennyn traddodiad.
Weixin Liu
Ganwyd Weixin Liu yn Tsieina, ac mae hi’n byw yn Abertawe ers blynyddoedd lawer. Mae’n frwd dros hyrwyddo diwylliant Tseineaidd yn eang ac yn ystyrlon yn y gymuned.
Mae Weixin yn gweithio fel artist cymunedol ers sawl blwyddyn, ac yn defnyddio ei sgiliau creadigol i gysylltu ac ysbrydoli eraill. Mae hi wedi ymrwymo i rannu ei sgiliau a’i gwybodaeth, ac mae’n cael pleser o rymuso eraill drwy fynegiant creadigol.
Lisa Burkl
Artist cyfryngau cymysg yw Lisa Burkl (g.1967, Llanelli) sy'n arbenigo mewn gwydr. Ar hyn o bryd mae'n gweithio o Ynysmeudwy yng Nghwm Tawe fel artist, darlithydd gwadd, a hwylusydd celf gymunedol.
Ers cymhwyso mewn Gwydr Pensaernïol ym 1991, mae Lisa wedi dylunio a saernïo comisiynau, arddangos mewn lleoliadau (gan gynnwys 'Amgueddfa Genedlaethol y Glannau’ yn Abertawe a 'Ffwrnes’ yn Llanelli), ac arwain gweithdai mewn ysgolion, prifysgolion, orielau a mannau cymunedol. A hithau'n athro cymwysedig sydd â BA mewn Gwydr Pensaernïol a TAR o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, mae hi wedi cydweithio'n eang ar brosiectau celf cyfranogol, gan weithio'n aml gydag elusennau i gefnogi llesiant drwy greadigrwydd.
Mae Penwythnos Celfyddydau Abertawe’n ddathliad deuddydd AM DDIM o greadigrwydd, diwylliant a chymuned yng nghanol dinas Abertawe.
Fe'i cynhelir ddydd Sadwrn 11 Hydref rhwng 10am a 10pm a dydd Sul 12 Hydref rhwng 10am ac 11pm, a bydd yr ŵyl yn trawsnewid y ddinas yn ganolfan o ysbrydoliaeth, gan ddod â cherddoriaeth, celfyddydau gweledol, a pherfformiadau byw at ei gilydd i bawb eu mwynhau.
Dros y penwythnos, gall ymwelwyr archwilio cymysgedd deinamig o raglenni wedi'u cynllunio ar gyfer oedolion a theuluoedd. Mae'r uchafbwyntiau'n cynnwys:
Cerddoriaeth a Pherfformiadau Byw - o dalentau lleol i berfformwyr gwadd arbennig, a fydd yn llenwi lleoliadau a mannau awyr agored â sain ac egni.
Arddangosfeydd a Gosodiadau - sy'n arddangos gwaith cymuned greadigol ffyniannus Abertawe ochr yn ochr ag artistiaid cenedlaethol a rhyngwladol.
Gweithdai a Phrofiadau Rhyngweithiol – cyfleoedd ymarferol i bobl o bob oedran fod yn greadigol, dysgu sgiliau newydd, a chymryd rhan mewn gweithgareddau artistig unigryw.
Adloniant Stryd a Digwyddiadau Dros Dro - perfformiadau a chyfleoedd chwarae annisgwyl ar draws canol y ddinas.
Sgyrsiau am y diwydiant - sesiynau llawn gwybodaeth gyda rhai o dalentau gorau Cymru.
Mae Penwythnos Celfyddydau Abertawe, y mae orielau, mannau digwyddiadau, theatrau a lleoliadau awyr agored i gyd yn cymryd rhan ynddo, yn fwy na gŵyl gelfyddydol yn unig – mae'n gyfle i ddathlu creadigrwydd, ymgysylltu â'r gymuned a darganfod rhywbeth newydd ar bob cyfle.
P'un a ydych wedi dwlu ar y celfyddydau erioed neu'n chwilio am ddiwrnod allan difyr, mae Penwythnos Celfyddydau Abertawe'n addo ysbrydoliaeth, adloniant a phrofiadau bythgofiadwy i bawb.
Oherwydd capasiti ein lleoliad, mae lleoedd yn brin. Os byddwch yn cadw lle yn un o'n gweithdai, gofynnwn i chi gadw at eich ymrwymiad i fod yn bresennol.
Rydym eisiau i’n gweithdai fod mor hygyrch â phosibl ond rydym yn gofyn i chi roi cyfraniad ariannol ar y diwrnod os gallwch chi. Ystyriwch gyfrannu os gallwch chi er mwyn cefnogi’r gweithdai a’r rhaglenni addysg yn Oriel Mission yn y dyfodol.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â
Safiyyah Altaf, Swyddog Creadigol Allgymorth,outreach@missiongallery.co.uk, ar 01792652016
Megan Leigh, Cydlynydd Dysgu ac Ymgysylltu, ar 01792 652016 neu anfonwch e-bost at megan@missiongallery.co.uk
Rhowch wybod i ni am unrhyw ofynion o ran mynediad, alergeddau neu gyflyrau meddygol.
O ran mynediad, mae un gris o’r palmant i lawr ein prif fynedfa.
Cynhelir y gweithdai yn y gofod addysg ar lawr cyntaf yr oriel.
Oherwydd cyfyngiadau’r adeilad, mae mynediad i’r ystafell addysg ar y llawr cyntaf ar risiau serth.
Mae staff wrth law i roi cymorth os oes angen.
