I Blant

  • Header image

Cwrs Animeiddio I Bobl Ifainc: Animeiddio Cam With GamDaniela Morales

15 Mai - 16 Mai 2021

Cwrs byr wedi’i anelu at bobl ifainc o dan 18 oed

Gweithdai Zoom ar-lein am ddim

Dydd Sadwrn 15 Mai

10yb -12yp

Dydd Sul 16 Mai

10yb - 12yp

 

Eventbrite: Cwrs Animeiddio I Bobl Ifainc

Mae’r gweithdy hwn yn gadael i chi greu a datblygu prosiect animeiddio o’r dechrau’n deg. 

Gan ddigwydd dros ddwy sesiwn, byddwch yn dysgu cysyniadau ac egwyddorion animeiddio sylfaenol drwy gwblhau tasgau ymarferol gan orffen y cwrs gyda’ch animeiddiad unigryw’ch hun.

Does dim rhaid wrth brofiad arlunio na gwybodaeth am feddalwedd ddylunio. Byddwch yn defnyddio ap ymarferol a syml. Felly, y cwbl sydd ei angen arnoch chi yw agwedd gadarnhaol a brwdfrydedd dros bopeth animeiddiedig - cofiwch mai’r unig derfyn yw’ch dychymyg!

DEUNYDDIAU:

  • Ffôn clyfar/ Tabled
  • Dewisol (os oes gynnoch chi ysgrifbin ar gyfer sgrin gyffwrdd gallai fod yn ddefnyddiol ond nid yw’n angenrheidiol)
  • Yr ap FlipaClip (WEDI’I LAWRLWYTHO YMLAEN LLAW) Ar gael ar APPSTORE a PLAY STORE
  • Fideo dawns o’ch hoff artist, TikToker, neu os yw’n well gynnoch chi gallwch eich recordio’ch hun. Dylai’r fideo gynnwys sain (15 EILIAD FAN BELLAF) (WEDI’I LAWRLWYTHO YMLAEN LLAW) Mae hwn ar gyfer y prosiect terfynol. 

Gwnewch yn siŵr fod y deunyddiau uchod gynnoch chi’n barod cyn y gweithdy. Rhaid archebu lle. Os byddwch yn archebu lle ar un o’n gweithdai, byddwn ni’n gofyn i chi gadw at eich ymrwymiad i’w fynychu.

Bydd y ddolen Zoom yn cael ei e-bostio atoch ryw gwpwl o ddiwrnodau cyn y sesiwn.

Am wybodaeth bellach, cysylltwch â Megan Leigh, Cydlynydd Dysgu ac Ymgysylltu, megan@missiongallery.co.uk

<< Yn ôl tudalen