I Blant

  • Header image
  • Header image

Clwb Crefft yr Hydref:Oriel Mission

25 Hydref - 22 Tachwedd 2025

Dydd Sadwrn 25 ain Hydref - Dydd Sadwrn 22ain Tachwedd 2025

11am-12:30pm | Oed 7+| £20 am 5 Gweithdy


Clwb Crefft yr Hydref:

Wrth i'r dail ddechrau disgyn ac wrth i'r nosweithiau oeri ychydig, rydych chi’n siŵr o gael eich ysbrydoli gan newidiadau’r tymor. Yn y clwb crefft hwn byddwn yn cynnal gweithdai sy'n arddangos y gorau o'r hydref. O adrodd straeon, gwneud llyfrau i sioeau pypedau cysgod gwych, addurniadau ffoil llachar a globau eira hudolus. Gadewch i'ch creadigrwydd ddisgleirio. Bydd yr holl ddeunyddiau’n cael eu darparu er mwyn i chi allu bod yn greadigol. Bydd y clwb bob dydd Sadwrn drwy fis Hydref a mis Tachwedd, sy’n golygu hwyl ym mhob penwythnos.

Cofrestrwch nawr i sicrhau eich lle!

Via Eventbrite:

Dydd Sadwrn 25ain Hydref |11am12:30pm:- Ffeltio

Dydd Sadwrn 1af Tachwedd|11am-12:30pm:Pypedau cysgod

Dydd Sadwrn 8fed Tachwedd|11am-12:30pm:Boglynnu ffoil

Dydd Sadwrn 15fed Tachwedd|11am-12:30pm:Globau eira a jariau llusern

Dydd Sadwrn 22ain Tachwedd|11am-12:30pm:Llyfrau Stori

 

Nodyn: Pan fyddwch yn dod at y dudalen taliad fe fydd eventbrite yn ychwanegu ffi ychwanegol. I osgoi hwn, cysylltwch gyda'r oriel yn uniongyrchol a bwcio dros y ffôn

Oherwydd capasiti ein lleoliad, mae lleoedd yn brin. Os byddwch yn cadw lle yn un o'n gweithdai, gofynnwn i chi gadw at eich ymrwymiad i fod yn bresennol.

Rydym eisiau i’n gweithdai fod mor hygyrch â phosibl ond rydym yn gofyn i chi roi cyfraniad ariannol ar y diwrnod os gallwch chi. Ystyriwch gyfrannu os gallwch chi er mwyn cefnogi’r gweithdai a’r rhaglenni addysg yn Oriel Mission yn y dyfodol.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â

Safiyyah Altaf,Swyddog Creadigol Allgymorth,outreach@missiongallery.co.uk ar 01792 652016

Megan Leigh, Cydlynydd Dysgu ac Ymgysylltu, ar 01792 652016 neu anfonwch e-bost at megan@missiongallery.co.uk

Rhowch wybod i ni am unrhyw ofynion o ran mynediad, alergeddau neu gyflyrau meddygol.

O ran mynediad, mae un gris o’r palmant i lawr ein prif fynedfa.

Cynhelir y gweithdai yn y gofod addysg ar lawr cyntaf yr oriel.

Oherwydd cyfyngiadau’r adeilad, mae mynediad i’r ystafell addysg ar y llawr cyntaf ar risiau serth.

Mae staff wrth law i roi cymorth os oes angen.


<< Yn ôl tudalen