I Blant

  • Header image

Boglynnu ffoil gyda Lisa Burkl

13 Rhagfyr - 13 Rhagfyr 2025

Boglynnu ffoil gyda Lisa Burkl

Dydd Sadwrn 13 Rhagfyr

11am- 12:30pm | Gweithdy i deuluoedd | £7


Trosolwg

Ymunwch â'n gweithdy i roi cynnig ar foglynnu ffoil – crefft hwyliog ac ymarferol sy'n defnyddio cardfwrdd, edau, ffoil, glud a phinnau ffelt. Byddwch yn creu dyluniadau sgleiniog, llawn gwead drwy foglynnu patrymau ac ychwanegu lliw, i gynhyrchu gwaith celf cyffyrddol a thrawiadol y gall pawb ei fwynhau.

Gallwn gyflwyno'r sesiwn hon yn Gymraeg.

Via Evenbrite: Boglynnu ffoil gyda Lisa Burkl

Cynhelir y gweithdy hwn yn ein man arddangos ar y llawr gwaelod

Bydd y gweithdy yma yn cael ei arwain gan yr artist Lisa Burkl a'i ddosbarthu yn Saesneg a Chymraeg. Bydd y sesiwn yn darparu lle diogel, creadigol i deuluoedd sydd yn dysgu Cymraeg neu sydd am fwynhau'r cyfle i ymarfer.

 

Oherwydd capasiti ein lleoliad, mae lleoedd yn brin. Os byddwch yn cadw lle yn un o'n gweithdai, gofynnwn i chi gadw at eich ymrwymiad i fod yn bresennol.

Rydym eisiau i’n gweithdai fod mor hygyrch â phosibl ond rydym yn gofyn i chi roi cyfraniad ariannol ar y diwrnod os gallwch chi. Ystyriwch gyfrannu os gallwch chi er mwyn cefnogi’r gweithdai a’r rhaglenni addysg yn Oriel Mission yn y dyfodol.

 

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â

Safiyyah Altaf,Swyddog Creadigol Allgymorth,outreach@missiongallery.co.uk ar 01792 652016

Megan Leigh, Cydlynydd Dysgu ac Ymgysylltu, ar 01792 652016 neu anfonwch e-bost at megan@missiongallery.co.uk

Rhowch wybod i ni am unrhyw ofynion o ran mynediad, alergeddau neu gyflyrau meddygol.

O ran mynediad, mae un gris o’r palmant i lawr ein prif fynedfa.

Cynhelir y gweithdai yn y gofod addysg ar lawr cyntaf yr oriel.

Oherwydd cyfyngiadau’r adeilad, mae mynediad i’r ystafell addysg ar y llawr cyntaf ar risiau serth.

Mae staff wrth law i roi cymorth os oes angen.

<< Yn ôl tudalen