Y Gwneuthurwr
Beverley Bell-HughesGwneuthurwr mewn Ffocws
20 Gorffennaf - 14 Medi 2019
Pan oeddwn yn yr ysgol gelf ar ddiwedd y chwe degau ysgrifennais fy nhraethawd ymchwil terfynol ar y berthynas rhwng ffurfiau naturiol a chlai. Ond dim ond er 1978 pan symudais i Gymru y datblygais syniadau yn fy ngwaith sy’n gysylltiedig yn uniongyrchol â lle dw i’n byw.
Yn broses reddfol o wneud a phinsio clai, mae fy ngwaith yn cael ei wneud drwy ddefnyddio torchau clai wedi’u fflatio gyda deunyddiau eraill fel gwahanol fathau o glai a thywod yn cael eu hychwanegu i newid gwead yr wyneb. Mae’r gwaith yn cael ei wthio a’i binsio gan achosi tyllau mawr a mân.
Mae gwaith Beverley Bell-Hughes wedi ei ddewis gan Gelfyddydau Anabledd Cymru.
Am Celfyddydau Anabledd Cymru
Fel sefydliad arweiniol ar gyfer anabledd a’r celfyddydau yng Nghymru, mae gan Celfyddydau Anabledd Cymru 35 mlynedd o brofiad o ddarparu amrywiaeth o gefnogaeth artistig a chyngor creadigol; rhaglenni hyfforddi arbenigol (Hyfforddiant ar Gyfartaledd i Bobl Anabl a Chymorth Cyntaf Iechyd Meddwl) a chyfleoedd datblygu proffesiynol i’n haelodau. Ar hyn o bryd rydym yn cefnogi tua 400 o ymarferwyr creadigol ar draws Cymru.