I Oedolion

  • Header image

Sain a GwehydduGweithdai

16 Mawrth - 17 Mawrth 2019

10.30yb – 3.30yp • £40
Yn addas i 16+ oed
Lleoliad: Oriel Mission

Dydd Sadwrn:
11:00 - 13:00 – tro sain
13:30 - 16:00 - adolygu, dehongli a gwehyddu.

Dydd Sul:
11:00 - 16:00 – datblygu a gorffen gwehyddu.

Darperir offer ac amrywiaeth o ddeunyddiau. 

Seinio Lliw a Gwead – Defnyddio sain fel man cychwyn ar gyfer dylunio a gwehyddu tapestri.

Os ydych yn gwrando ar feirniaid ac eraill sy’n gweithio ym myd cerddoriaeth, byddwch yn aml yn eu clywed yn defnyddio iaith a allai, pe baech chi’n dod i mewn i’r sgwrs ar ei hanner, eich arwain at feddwl eu bod yn sôn am rywbeth hollol wahanol, rhywbeth sy’n fwy gweledol a chyffyrddol.

Mae’r iaith a ddefnyddir i ddisgrifio cerddoriaeth / sain yn debyg iawn i’r iaith a ddefnyddir i ddisgrifio cyfryngau eraill – cyfryngau sy’n cynnwys lliw, gwead, patrwm, siâp, ffurf a rhythm. Rydym yn defnyddio’r geiriau hyn wrth wehyddu tapestri i ddisgrifio beth rydym yn ei wneud, sut a pham rydym yn ei wneud, beth yw ei hanfod – ac rydym yn ‘teimlo’ y geiriau hyn wrth i ni drafod y deunyddiau, strwythurau a’r technegau rydym yn gweithio â nhw.

Man cychwyn y gweithdy hwn yw mynd am ‘dro sain’ o gwmpas Ardal Forol a glan môr Abertawe gan wrando ar yr oll y gallwn ei glywed, cofnodi gwahanol agweddau arno ac wedyn defnyddio’r recordiadau’n ôl yn yr oriel fel man cychwyn ar gyfer dylunio a dethol deunyddiau mewn tapestri gweedig syml.

Bydd clipiau sain eraill ar gael yn ogystal â cherddoriaeth wedi’i dethol neu o’ch dewis eich hun (os dewch chi â hi).

Bydd y gweithdy’n dysgu i ddechreuwyr sylfeini gwehyddu tapestri ac i wehyddion mwy profiadol ymagwedd newydd tuag at ddatblygu syniadau ar gyfer gwehyddu.

Mae’r ffocws ar arbrofi gyda gwahanol ddeunyddiau ochr yn ochr ag ymchwilio i beth yw sain a’r ffyrdd y mae’n cael ei disgrifio – o ran lliw a gwead yn bennaf. Nid tapestri gorffenedig yw nod y gweithdy, ond disgwylir cwblhau sampl weedig gan ddefnyddio technegau cyflym a syml a chanolbwyntio ar y strwythur gweedig ac amrywiaeth o ddeunyddiau.

Deunyddiau:

Darperir gwyddiau a bobinau parod ac amrywiaeth o edafedd a deunyddiau eraill. Croeso i chi ddarparu’ch deunyddiau’ch hun a, gyda gwead mewn cof a hyblygrwydd gwehyddu tapestri, mae lle i bopeth!

 

Eventbrite - Sound and Weave Workshop | Gweithdy Sain a Gwehyddu

Am wybodaeth bellach, cysylltwch â Kat Ridgway, Cynorthwyydd Addysg a Chyfranogi ar 01792 652016 neu e-bostio education@missiongallery.co.uk

Mae nifer y lleoedd yn gyfyngedig felly rhaid archebu ymlaen llaw. Dewch â phecyn cinio a rhoi gwybod i ni am unrhyw anghenion o ran mynediad, alergeddau neu anhwylderau meddygol.

<< Yn ôl tudalen