I Oedolion
Gwneud Printiau
22 Mai - 22 Mai 2021
Ymunwch â ni yn Oriel Mission ar gyfer gweithdy gwneud printiau ar-lein.
Er bod yr Oriel ar gau o hyd, gallwn ni gwrdd yn rhithiol i arbrofi â gwahanol dechnegau gan ddefnyddio ambell beth sydd gynnoch chi gartre.
Cyfle i gael hwyl wrth ddefnyddio lliw a gwneud marciau i ddysgu sut i greu’ch monobrintiau difyr eich hun.
Y deunyddiau y bydd eu hangen arnoch chi:
Ffoil
Arwyneb y gallwch ei olchi. Gallech ddefnyddio darn o blastig neu hambwrdd.
2 ddarn o gerdyn neu gardbord maint A4 fan leiaf (gallwch ddefnyddio deunydd pacio cardbord neu ddeunyddiau pacio bwyd)
Paent acrylig
Brwshis paent gan gynnwys brwsh mawr
Papur (gall hyn gynnwys amrywiaeth o liwiau a gweadau os ydyn nhw gynnoch chi neu bapur rydych chi’n mynd i’w ailgylchu)
Siswrn
Glud
Pethau ar gyfer gwneud marciau, e.e. brwshis, byds cotwm, priciau pren crefft, brwsh dannedd, darnau o ddefnydd (dewch â beth bynnag sydd gynnoch chi!)
Gwnewch yn siŵr fod y deunyddiau uchod gynnoch chi yn barod cyn y gweithdy.
Nifer y lleoedd yn gyfyngedig, rhaid archebu lle ymlaen llaw
Rhowch wybod i ni am unrhyw anghenion o ran mynediad.
Am wybodaeth bellach cysylltwch â Megan Leigh, Cydlynydd Dysgu ac Ymgysylltu, megan@missiongallery.co.uk