I Oedolion
Cyflwyniad i DdyfrlliwiauLucy Donald
18 Rhagfyr - 18 Rhagfyr 2021
Cyflwyniad i Ddyfrlliwiau
Dydd Sadwrn 18 Rhagfyr | 11yb – 3yp | £10 | 14+ oed
Eventbrite: Cyflwyniad i Ddyfrlliwiau
Gan weithio gyda’r artist Lucy Donald, dysgwch am hanfodion paentio yn y gweithdy hwn, ‘Cyflwyniad i ddyfrlliwiau’. Bydd gweithiau celf yn cael eu creu ar thema’r Nadolig y gellir eu defnyddio fel cardiau cyfarch neu nodiadau diolch. Byddwn yn cymryd ein hysbrydoliaeth o draddodiadau’r gaeaf a mytholeg Geltaidd.
Artist yw Lucy Donald sy’n byw ac yn gweithio ym Mhorth Tywyn ac Abertawe. Ysbrydolir ei gwaith gan farddoniaeth, geiriau caneuon a theithiau cerdded dyddiol ar hyd yr arfordir ac yn y wlad. Mae ei chariad at hanes a diwylliant Cymru’n ffurfio sylfaen ei gwaith. Gwneuthurydd printiau, peintwraig a cherflunydd â phapur a cherdyn yw hi.
Mae ei gwaith diweddar yn edrych ar ddyfrlliwiau fel cyfrwng gan ddod â’r darnau’n fyw drwy’u troi’n animeiddiadau.
Ar hyn o bryd mae gwaith Lucy ar ddangos yn Oriel Mission yn ein gofod arddangos digidol, Y Sgrîn.
Gallwch gael hyd i Lucy ar Instagram @lucydonalduk