I Oedolion
CWRS ANIMEIDDIO I OEDOLION: ANIMEIDDIO CAM WRTH GAMDaniela Morales
03 Gorffennaf - 04 Gorffennaf 2021
Cwrs byr wedi’i anelu at oedolion
Gweithdai Zoom ar-lein am ddim
Dydd Sadwrn 3ydd Gorffennaf
10yb -12yp
Dydd Sul 4ydd Gorffennaf
10yb - 12yp
Eventbrite: CWRS ANIMEIDDIO I OEDOLION
Mae’r gweithdy hwn yn gadael i chi greu a datblygu prosiect animeiddio o’r dechrau’n deg.
Gan ddigwydd dros ddwy sesiwn, byddwch yn dysgu cysyniadau ac egwyddorion animeiddio sylfaenol drwy gwblhau tasgau ymarferol gan orffen y cwrs gyda’ch animeiddiad unigryw’ch hun.
Does dim rhaid wrth brofiad arlunio na gwybodaeth am feddalwedd ddylunio. Byddwch yn defnyddio ap ymarferol a syml. Felly, y cwbl sydd ei angen arnoch chi yw agwedd gadarnhaol a brwdfrydedd dros bopeth animeiddiedig - cofiwch mai’r unig derfyn yw’ch dychymyg!
DEUNYDDIAU:
-
Ffôn clyfar/ Tabled
-
Dewisol (os oes gynnoch chi ysgrifbin ar gyfer sgrin gyffwrdd gallai fod yn ddefnyddiol ond nid yw’n angenrheidiol)
-
Yr ap FlipaClip (WEDI’I LAWRLWYTHO YMLAEN LLAW) Ar gael ar APPSTORE a PLAY STORE
-
Fideo dawns o’ch hoff artist, TikToker, neu os yw’n well gynnoch chi gallwch eich recordio’ch hun. Dylai’r fideo gynnwys sain (15 EILIAD FAN BELLAF) (WEDI’I LAWRLWYTHO YMLAEN LLAW) Mae hwn ar gyfer y prosiect terfynol.
Gwnewch yn siŵr fod y deunyddiau uchod gynnoch chi’n barod cyn y gweithdy. Rhaid archebu lle. Os byddwch yn archebu lle ar un o’n gweithdai, byddwn ni’n gofyn i chi gadw at eich ymrwymiad i’w fynychu.
Bydd y ddolen Zoom yn cael ei e-bostio atoch ryw gwpwl o ddiwrnodau cyn y sesiwn.
Am wybodaeth bellach, cysylltwch â Megan Leigh, Cydlynydd Dysgu ac Ymgysylltu, megan@missiongallery.co.uk