Comisiynau i artistiaid ar gyfer adnoddau digidol 

 

Mae Oriel Mission yn gwahodd datganiadau o ddiddordeb gan artistiaid ac ymarferwyr creadigol llawrydd yn ardal Bae Abertawe, h.y. Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro, ynglŷn â chreu adnoddau digidol ar y thema Cysylltiad. Yr adnoddau fydd gweithgarwch wedi’i recordio sydd wedi’i sbarduno neu sydd dan arweiniad yr artist. Bydd y cynulleidfaoedd yn gallu mynd at yr adnoddau’n ddigidol, pryd a lle bynnag y mynnont.

 

Hoffen ni gomisiynu 2 adnodd sy’n addas i oedolion a 2 adnodd sy’n addas i bobl ifainc. Cyhoeddir yr adnoddau a’u rhannu â’n cynulleidfaoedd yn ddigidol. Mae croeso i artistiaid sy’n gweithio mewn unrhyw faes wneud cais. Rydyn ni’n awyddus i gomisiynu amrywiaeth o adnoddau creadigol hunandywysedig a chroesewir syniadau a dulliau newydd.

 

Ffi gomisiwn am adnoddau digidol: £150

  

Gall datganiadau o ddiddordeb fod yn ysgrifenedig neu ar ffurf ffeiliau fideo neu sain (.mpeg neu mp4 yn unig). Dylai’ch datganiad o ddiddordeb gynnwys:

• enw a manylion cyswllt yr ymgeisydd

• un ai bywgraffiad neu cv neu ddolen â gwefan eich gwaith

• amlinelliad byr o’ch syniad o ran yr adnodd, gan gynnwys y grŵp targed (400 o eiriau fan bellaf neu 5 munud os ar ffurf ffeil weledol neu sain)

 

Rydyn ni’n chwilio’n arbennig am gyflwyniadau gan artistiaid y mae eu cefndiroedd a/neu hunaniaeth heb eu cynrychioli’n ddigonol yn y celfyddydau. Cynigir o leiaf un comisiwn i artist o gefndir sy’n ethnig amrywiol. Cynigir un arall i artist sydd â nodweddion gwarchodedig.

Er mwyn cael eich ystyried i gael eich dewis, cyflwynwch ddatganiad o ddiddordeb i Oriel Mission erbyn 5yp, Dydd Gwener 2 Ebrill.


Cysylltwch â ni yn Oriel Mission os hoffech dderbyn yr wybodaeth yma mewn fformat arall.

 

Anfonwch yr wybodaeth i:

 

apply@missiongallery.co.uk

Llinell Bwnc: Adnoddau Digidol

Dyddiad Cau: 5yh, Dydd Gwener 2 Ebrill 2021

 
100 mlynedd o Glenys Cour

100 mlynedd o Glenys CourArddangosfa

03 Chwefror - 04 Mai 2024

Mwy