Digwyddiadau

  • Header image

Salt on our BootsEmily Hinshelwood a Delyth Jenkins

05 Medi - 05 Medi 2019

Noson i ddathlu rhyddhad y CD Salt on our Boots gan Emily Hinshelwood a Delyth Jenkins. Mae Delyth Jenkins, y delynores Geltaidd flaenllaw, ac Emily Hinshelwood, y bardd sydd wedi ennill sawl gwobr am ei barddoniaeth, wedi ymuno i gynhyrchu albwm o'u profiadau o gerdded llwybr arfordir Sir Benfro. O nofwyr noeth i bryfed tân, o Brunel i'r Blue Lagoon, o ddeuawdau barddoniaeth a thelyn i alawon traddodiadol Cymreig a chwaraeodd Delyth i gerddwyr ar y llwybr, mae Salt on our Boots yn cyfleu awyrgylch arfordir hardd Cymru.

 

Tocynnau £5, i gynnwys gwydraid o win neu ddiod ysgafn.

Drysau yn agor am 7pm i ddechrau am 7.30pm


<< Yn ôl tudalen