Digwyddiadau
Out loudAr y wal | Off the wall
11 Awst - 11 Awst 2022
*** WEDI EI DDILEU ***
5 - 7yh | Dydd Iau, 11 Awst 2022
Lleoliad: Oriel Mission
AM DDIM | Croeso i bawb
Dewch i gwrdd ag artistiaid Ar y wal | Off the wall, Sue Williams a Sahar Saki. Gwrandewch ar beth sydd yn eu hysbrydoli ac ymunwch a nhw am gerddoriaeth a darlunio o fewn yr oriel.
Cliciwch YMA i fwcio'ch tocyn am ddim
---
Arddangosfa gan yr artistiaid o Gymru, Sahar Saki a Sue Williams, yw Ar y wal | Off the wall i gyd-fynd â Beep 2022.
Gan ddefnyddio'r oriel fel cynfas, mae Sahar a Sue yn paentio'n uniongyrchol ar y waliau a’r lloriau. Mae'r arddangosfa yn cynnwys caligraffi Persiaidd a gwaith ffigurol; gan fynd i'r afael â materion cymdeithasol cyfoes o fewn cyd-destun gwerthoedd a hunaniaethau diwylliannol traddodiadol.
Am yr artistiaid:
Mae Sahar Saki yn artist a dylunydd arobryn rhyngwladol o Iran sydd bellach yn byw yng Nghaerdydd. Mae hi wedi derbyn gwobrau gan UNESCO, Busnes Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru, ac wedi gweithio gyda gwahanol sefydliadau a chanolfannau cymunedol megis Opera Cenedlaethol Cymru, Theatr y Sherman,Arcade Cardiff, Canolfan Glan yr Afon, Canolfan Gelfyddydau Neuadd Llanofer, Celf Mewn Iechyd GWENT, Craft in the Bay, Cyngor Caerdydd a Made in Roath. Mae'r rhan fwyaf o'i phrosiectau wedi'u hysbrydoli gan ei chefndir Persiaidd.
Mae Sue Williams yn artist rhyngwladol amlwg gyda chorff cydnabyddedig o waith a hanes o arddangosfeydd o sioeau unigol a grŵp ar bum cyfandir. Mae ei gwaith hunanethnograffig, boed yn lluniau neu’n destun, yn cyfleu cymhlethdodau perthnasoedd dynol mewn cyd-destun diwylliannol cyfoes – boed yn weledol neu’n destunol, mae’n dangos bregusrwydd sydd yn ennyn ymateb effeithiol. Mae hi’n parhau i herio ac archwilio cysyniadau newydd a ffurfiau celfyddydol amlddisgyblaethol, gan gynnig ymateb uniongyrchol i fyd cymhleth breuder dynol, gan dynnu’r gwyliwr i fyd pryfoclyd o wleidyddiaeth rywiol ac emosiynol. Mae Sue Williams yn Athro Celfyddyd Gain yng Ngholeg Celf Abertawe, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ac yn un o artistiaid benywaidd cyfoes mwyaf blaenllaw Cymru.
Mae'r arddangosfa Ar y wal | Off the wall ar gael hyd at ddydd Sadwrn 13 Awst 2022.
Delwedd: Lucy Howson