Yr Oriel
Nancy Baldwin & Gordon BaldwinNancy Baldwin & Gordon Baldwin
21 Chwefror - 28 Mawrth 2009
Mae’n bleser gan Mission Gallery gynnal Arddangosfa Deithiol Canolfan Grefft Rhuthun gan Nancy Baldwin a Gordon Baldwin, yr arlunydd a’r crochenydd. Dyma bartneriaeth greadigol newydd rhwng Nancy Baldwin a Gordon Baldwin, i gynhyrchu corff o waith sy’n cyfuno cryfderau creadigol y ddau ohonynt.
Yr arddangosfa hon yw’r olwg gyntaf ar ganlyniadau cydweithrediad cyffrous rhwng y tîm gŵr a gwraig, y crochenydd a’r cerflunydd, Gordon Baldwin, a’r arlunydd Nancy Baldwin. Wedi degawdau o waith unigol, dechreuodd y ddau ar gyfnod newydd yn eu partneriaeth greadigol yn ddiweddar. Cafodd Gordon ei ysbrydoli gan drafodaethau â’i wraig i adeiladu cyfres o ffurfiau diaddurn – cynfasau tri dimensiwn – ac aeth Nancy ati i’w bywiogi a’u haddurno drwy wneud marciau arnynt – modelu, cerfio, a pheintio â gwydredd. Mae’r gyfres a ddeilliodd o hyn yn cyfuno cryfderau creadigol y ddau.
I Nancy a Gordon, mae’r llestri newydd hyn yn cynrychioli menter newydd yn eu datblygiad creadigol personol. Er i Nancy ddilyn gyrfa fel arlunydd, astudiodd Grochenwaith yn wreiddiol, fel Gordon, yn The Central School of Arts and Crafts, lle arbenigodd mewn adeiladu â llaw yn hytrach na thaflu. Manteisiodd Nancy ar y cyfle hwn yn frwd; roedd yn gyfle digyffelyb iddi weithio’n rhydd ac yn reddfol yn uniongyrchol ar arwyneb y clai crai, gan archwilio triniaethau ar gyfer portreadu’r ffigwr noeth ar ffurf tri dimensiwn, fel bod llestri a ffigyrau’n ymddangos fel petaent yn cydgyfeirio ac yn dod yn rhan o gyfanrwydd ehangach diwnïad.
Fel y dywed Emmanuel Cooper yn ei draethawd, ‘Oherwydd bod Nancy Baldwin yn arlunydd yn hytrach na chrochenydd, a Gordon Baldwin yn gerflunydd yn fwy na chrochenydd, mae’r cydweithrediad a geir l yn gymysgryw hynod o gelf a chrefft, gydag angen cyfartal am y ddwy elfen. I Nancy, nid cynfas siâp od yn unig yw’r llestr, ond ffurf tri dimensiwn i’r ffigurau lifo a thrigo o’i chwmpas.’