Yr Oriel

  • Header image
  • Header image
  • Header image
  • Header image
  • Header image
  • Header image

Lost from ViewHolly Davey

12 Ebrill - 24 Mai 2008

 

Artist o Gaerdydd yw Holly Davey a’i gwaith yn canolbwyntio ar berfformio byrfyfyr.  Mae’r sioe safle-benodol hon yn Mission Gallery yn ymwneud â’r cof: gorffennol yr adeilad fel gofod a’i hanes, a breuddwydion, dyheadau a dymuniadau ei ymwelwyr i’r gorffennol a’r presennol.   

 

Treuliodd Davey amser yn ymchwilio’r gofod a dadorchuddiodd stori ddiddorol am ddwy chwaer Davey a briododd yn yr oriel pan oedd yn gapel.  Ysbrydolodd y cyd-ddigwyddiad hynod gyfres o berfformiadau preifat yn yr oriel, ac o ganlyniad maent yn rhan o’r arddangosfa hon. 

 

Yn ei sgwrs â’r ysgrifennwr Angela Kingston, datgela Davey ei syniadau a’i phrofiadau o ofod fel y “lle mwyaf gwaharddol a seithug”.  Adrodda Davey ei hun ba mor annisgwyl o chwareus oedd ei hymateb i’r capel yn y pen draw, a chymaint yr ymgollodd yn y gwaith, “Ces fy syfrdanu a’m hudo”.

 

Mae’r arddangosfa’n cynnwys ffotograffau sy’n cofnodi rhai o’r perfformiadau a wnaeth gyda’r camera ar amserydd.  Yn y ffotograffau canlyniadol gwelwn ni hi’n codi’i hun i fyny at ffenestri allan o gyrraedd, ac yn encilio fel cysgod i gorneli’r oriel.  Y gwaith hwn, fel y disgrifia Davey ef, yw ei “gwasgnod ar y gofod hwnnw ar yr ennyd honno”.

 

Yn ogystal â hyn, mae hi wedi creu celfwaith ble mae ffilm o’i chysgod wrth iddi ddawnsio'n cael ei daflunio wrth ochr fêl priodas Edwardaidd.  Yn ôl Angela Kingston mae “…yr artist yn perfformio dawns bywyd, yn cyffroi llwch y gorffennol, ei chysgod yn croesi’r pellter”.  Ychwanega, “...yma, cydnabyddiaeth byw o rywbeth sy’n aneglur hyd yn hyn; yno, cysylltiad chwilfrydig â dwy fenyw wedi’u hen anghofio-”.

 

Astudiodd Holly Davey yng Ngholeg Goldsmiths, Llundain, ac mae’i harddangosiadau yn y gorffennol wedi cynnwys ‘A Third is You’ yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd, a ‘Innocence and Despair’ fel rhan o dymor ‘One in the Other’ g39.  Yn 2006 enillodd Wobr Ffotograffwyr Ifanc yn ‘Artist Cymreig y Flwyddyn’ Neuadd Dewi Sant.

<< Yn ôl tudalen