Yr Oriel

  • Header image
  • Header image
  • Header image
  • Header image
  • Header image
  • Header image

Hawk and HelicopterOsi Rhys Osmond

15 Ionawr - 20 Mawrth 2011

Mae Oriel Mission yn falch iawn o gyflwyno arddangosfa o waith Aled Rhys Hughes, artist lens sy’n gweithio yn ne Cymru ers 1984.  Mae gan waith Aled gysylltiad clos â thir ei fagwraeth a chafodd ei ddangos mewn arddangosfeydd unigol a chyfun ym Mhrydain ac Ewrop dros y chwarter canrif a aeth heibio.

Detholiad o ddelweddau yn dwyn y teitl Tro’r Trai fydd i’w gweld yn Oriel Mission, sy’n rhan o gyfres Aled Rhys Hughes Rhyw Deid yn Dod Miwn, a wnaed o ganlyniad i gomisiwn gan brif gyhoeddwyr Cymru, Gomer.  Mewn cytgord arbennig â’r diweddar brifardd Iwan Llwyd, a fu farw fis Mai yn 52, gwnaeth aled luniau o arfordir Cymru, ac mae’r llyfr a ddeilliodd o’r project yn cyflwyno golwg syfrdanol a dadlennol ar dirwedd a ddylai fod yn adnabyddus ond sydd, o’i weld drwy lens yr artist, yn ago rein llygaid i olygfeydd cyffrous ac annisgwyl.  Enillodd y gyfrol wobr y llyfr lluniau gorau yng Ngwobrau’r Diwydiant Cyhoeddi yn 2010.

Er bod pob un o’r lluniau yn yr arddangosfa wedi’u gwneud yng Nghymru, maent yn adrodd straeon sy’n wir am bob arfordir ledled y byd, straeon am ddyn a natur mewn clymblaid anghysurus, y ddwy blaid yn newid ac yn ailffurfio’r tir wrth reddf ac i’w dibenion ei hun. Credir weithiau nad yw tirlun – boed arfordirol neu wledig – yn newid, ond gwrthbrofir y celwydd hwnnw gan y lluniau hyn. Mae’r arfordir yn cymysgu’r atgofus a’r diwydiannol, yr hardd a’r cyffredin; mae’n amddiffynfa rhag ymosodiad ond yn annog mewnlifiad o fath gwahanol. Gobeithio y bydd y delweddau’n herio ein disgwyliadau o lan y môr fel y mae, fel y bu ac fel y bydd.

Yn 2006 enillodd Aled Rhys Hughes y Fedal Aur am Gelfyddyd Gain yn yr Eisteddfod Genedlaethol, a gynhaliwyd yn Abertawe, am ei luniau hudol o’r Mynydd Du, o dan y teitl Ffarwel Rock. Prynwyd pedwar o’r lluniau gan Oriel Glynn Vivian a gwelir ei waith mewn sawl casgliad.

<< Yn ôl tudalen