Yr Oriel

  • Header image

Criw Celf y GorllewinCodi'r Bar, Portffolio, Criw Celf Cynradd ac Uwchradd

11 Medi - 25 Medi 2021

Curadur Lisa Evans

Curadur Ifanc Evelyn Wolstenholme

Mae Oriel Mission yn arddangos cynnyrch cyffrous eu Rhaglen Addysg nodedig, Criw Celf y Gorllewin. Mae myfyrwyr Mwy Abl a Thalentog 9-18 oed ledled de Cymru wedi ymgymryd â dosbarthiadau meistr ar-lein ac wyneb i wyneb mewn Celf a Dylunio yng Ngholeg Celf Abertawe (PCDDS), Coleg Gŵyr ac Oriel Mission. Byddant yn arddangos y gwaith y maent wedi’i gynhyrchu mewn gofod proffesiynol am bythefnos.

Rhoddwyd y cyfle i’r myfyrwyr i feistroli technegau newydd ac fe'u hanogwyd i edrych ar wahanol feysydd arbenigol i hybu eu brwdfrydedd am yrfa yn y celfyddydau. Daw canlyniadau pob gweithdy at ei gilydd yn yr arddangosfa yma sy’n cloi’r prosiect, gan ddangos taith a datblygiad creadigol y bobl ifanc yma.

 

 

 

 
 

<< Yn ôl tudalen