Yr Oriel
ATB: Collective Misunderstandings
16 Ionawr - 08 Chwefror 2015
Darn sefydlog archwiliol, adlewyrchol a datblygol yw Collective Misunderstandings gan y gyweithfa aml-gyfrwng, ATB.
Wedi eu gwahodd gan Benblwydd Celf, Cymru i archwilio cysyniadau Wtopia o flaen cylchwyl 500 mlynedd llyfr Thomas Moore o’r un enw, mae ATB wedi dylunio arddangosfa a Rhaglen o weithgareddau a fydd yn archwilio’n feirniadol hanes meddwl Wtopiaidd. Gwahodd ATB ni i ystyried y syniadau hyn fel dull o broses agored gellid ei weithredu trwy ffurfiau o symudedd geo-cymdeithasol sydd yn seiliedig yn y gymuned.
Bydd gwagle’r oriel yn newid dros gyfnod i adlewyrchu’r digwyddiadau, gweithgareddau a deialogau a fydd yn cymryd lle o fewn ac o amgylch yr oriel.
Cyweithfa aml-gyfrwng yw ATB gyda gwreiddiau amrywiol sy’n gysylltiedig i’r Almaen, Denmarc, Norwy, Lithwania. Chile a Chymru. Mae ganddynt oll ddiddordeb yng nghyweithfeydd, gwagle dinesig, perfformiad, gwleidyddiaeth celf a’i botensial rhyddhaol.
Marcia Collective Misunderstandings wythfed blwyddyn cyfraniadau Penblwydd Celf, Cymru i ddathliadau rhyngwladol, blynyddol Penblwydd Celf ar y 17fed Ionawr bob blwyddyn.
Mae yna drafodaeth gyfrannog ar ddydd Sadwrn 17fed Ionawr yn Oriel Mission, a digwyddiad cysylltiol ar ddydd Sadwrn 24ain Ionawr mewn lleoliad canol dinas oddi ar safle lle gwahoddir ATB, siaradwyr gwadd a chyfranogwyr i ymhelaethu ar y pwnc o Wtopia. Mae’r ddau ddigwyddiad am ddim a gellid bwcio trwy Eventbrite. Cyd-gynhelir gan Benblwydd Celf Cymru, ATB a’r Athrofa am Byth.
Cefnogir gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Sefydliad Celfyddydau Denmarc a Gweinidogaeth Diwylliant Gweriniaeth Lithwania.