Y Sgrin

  • Header image

Philip Lamberty lle [...]

30 Medi - 02 Tachwedd 2014

Wedi ei ysbrydoli gan ei bersbectif fel artist lliwddall a’i gefndir gwyddonol, mae gwaith Philip wedi datblygu o beintiadau arsylwadol sydd yn ystyried canfyddiad yn ei ystyr lledaenach. Yn bwydo’n gyfartal o ymchwil i athroniaeth, gwyddoniaeth, theori a hanes  celf, mae’r gwaith nawr yn cynnwys paentio, arlunio, creu ffilm, sain, gweithio gyda’r cyhoedd ac ymrwymiad cyhoeddus.

Yn y ffilmiau a’r gwaith cyhoeddus archwilir ein canfyddiad o bobl eraill, ein canfyddiad o wybodaeth a materion ynghylch theori esblygiadol. Mae’r prosiectau yma yn aml yn edrych i gydweithio’r cyhoedd yn uniongyrchol gydag arolygon, neu bortreadau fideo. Yn debyg i’r pseudo a’r gwyddoniaethau gwerinol yn aml awgryma’r prosiectau peth gwirionedd neu ystyr, ond ar archwiliad agosach daw hyn yn amwys.

Ffocysa’r gwaith peintiadol ar y manylion o ganfyddiad gweledol. O ganlyniad, daw lliw, prif canfyddiadau gwagle a rhithiau gweledol sydd yn cymryd lle yn y mannau yma, yn brif themau, ynghyd ag archwiliad parhaol o’r berthynas rhwng arwyneb peintio a chyfrwng gwahanol. Yr effaith yw creu gweithiau llachar, chwareus a phositif.

 

Am | Philip Lambert

Mae gan Philip Anrhydedd MA yng Nghelf Gain o Metropolitan Abertawe, yn ogystal â BSc yng Ngwyddoniaethau Dynol o Brifysgol Coleg Llundain, lle ffocysodd ar y theori esblygiadol. Prynwyd darnau o waith gan gasglwyr preifat a chyhoeddus, gan gynnwys Paentiadau yn Ysbytai. Mae gwaith Philip wedi ei adnabod gan Gymdeithas Artistiaid Brenhinol Caerfaddon ac Artist y Flwyddyn Cymru (ennillwr categori y myfyriwr 2010). Roedd hefyd yn artist clawr i gylchgrawn Artist Newsletter (Ebrill 2012) a dewiswyd yn un o’r pump myfyriwr graddedig gorau yng Nghymru yn 2011 a 2012 gan AXIS. Yn ogystal, mae Philip wedi’i wobrwyo â grant gan Gyngor Celfyddydau Cymru i rhedeg prosiect yn cysylltu celf a gwyddoniaeth gydag ymrwymiad cyhoeddus ac i rhedeg gweithdai gydag adran Bio-Gwyddoniaeth Prifysgol Caerdydd.

<< Yn ôl tudalen