Y Gwneuthurwr

  • Header image

Vanessa CutlerGwneuthurwr Mewn Ffocws

08 Ebrill - 18 Mai 2014

Mae gwaith Vanessa yn edrych i wthio ffiniau technoleg torri jet dŵr. Yn y blynyddoedd diwethaf mae hi wedi bod yn archwilio ffyrdd creadigol o dorri gwydr gyda jet dŵr. Arweinodd hyn i ddatblygiad gwaith newydd sydd yn gwneud y mwyaf o’r dechnoleg blaengar yma mewn ffordd unigryw a chreadigol.

Archwilir rhinweddau torri, torri siapiau, llinellau a melina o fewn haenau gwydr sydd ond yn bosib gyda’r peiriant. Cynhyrchir llinellau cywir, tyllau a siapau manwl, gellid eu defnyddio’n lluosog, o fewn haen unigol a nifer  haenau gwydr. Mae’r ansoddau yma yn creu gwaith sydd yn defnyddio prosesau i atynnu’r gwyliwr. Mae’r dynesfa yn bitw gan adael i’r toriadau gwneud y mwyaf o’r gwydr pensaerniol. Amlygir haenau y darnau gwydr gyda manipiwleiddiad golau naturiol ac artiffisial.

Am | Vanessa Cutler

Cyfarwyddwr, Darlithydd a chyd-gyfarwyddwr torri jet dŵr MA yw Vanessa Cutler yn Ysgol Gwydr Abertawe, Metropolitan Abertawe, UWTSD (Prifysgol Cymru, Y Drindod Dewi Sant) ynhyd a Mentor Dylunio i Gyngor Celfyddydau Iwerddon, Cynghorydd Dylunio Athrofa Dylunio Cynaliadwy UWTSD. Mae ei stiwdio yn cymryd comisiynau sydd yn defnyddio’i gwybodaeth a phrofiad eang yn y maes gwydr pensaerniol a thorri jet dŵr. Mae hi wedi ysgrifennu saith papur ar dorri gwydr gyda jet dŵr, wedi cynnal dosbarthiadau arbenigol a nifer o gyflwyniadau yn y DU, Ewrop a’r UDA. Cyhoeddodd lyfr ‘New Technologies in Glass’ yn ddiweddar (Bloomsbury, Llundain, 2012) gan ddangos cymhwysiadau’r dechnoleg gan artistiaid yn y blynyddoedd diwethaf.

<< Yn ôl tudalen