Y Gwneuthurwr

  • Header image

Shelby GeorgeGwneuthurwr Mewn Ffocws

28 Hydref - 16 Tachwedd 2014

Yn raddedig o gwrs Dylunio Patrwn Arwyneb UWTSD Metropolitan Abertawe, crëir Shelby George ffabrigau mewnol comsiynol. Yn ymroddedig i archwiliad technegau traddodiadol tecstil, mae ei chasgliad graddedig yn gymysgedd o felfed, sidan a chymysgedd gwlân moethus. Mae ei gwaith yn tynnu ar ddelweddau o gerrig cwar ei thadcu a’r arfordir Jwrasig. Ei phalet dewisol yw cyfuniad o liw cyfoethog a thawel wedi eu hysbrydoli gan rhinweddau naturiol carreg.

Cyfleir haenu prosesau sgrîn sidan natur gweadol calchfaen, carreg Cotswold a llech Indiaidd. Mae’r defnydd o devoré, ffloc, shibori a lliwio â llaw wedi darparu cyfuniad unigryw o addurno a manipiwleiddio, sydd yn adeiladu ar a dinoethi arwynebau. Darpara hyn  rhinweddau cyffyrddol, tryleu a gwead moethus yn ei defnyddiau.

<< Yn ôl tudalen