Y Gwneuthurwr

  • Header image
  • Header image
  • Header image
  • Header image
  • Header image
  • Header image

Jeanette OrrellGwneuthurwr Mewn Ffocws

01 Gorffennaf - 03 Awst 2014

Mae Jeanette Orrell wedi datblygu casgliad o waith dros y chwech mlynedd diwethaf gan greu cerflunwaith manwl a chywrain sydd yn cyfuno gwrthrychau personol gyda’r sylfaenol bersonol. Defnyddid gwallt ym mheth o’r gwaith, ac fe arddangoswyd rhan ohono yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac yn Strand yn Oriel Wrecsam. Arddangoswyd gwrthrychau gwnïol yn tactileBosch. Cafodd Jeanette hefyd ei chynnwys yn y llyfr cyhoeddedig diweddar Making and Drawing gan Kyra Cane.

Mae ei gwaith yn cyfuno’r trawsnewidiad o blentyndod i oedolyn, arsylwyd Jeanette yn ei merched. Bregus, Tyfiant, Cariad, Magwraeth, Bondiau, Cof, Diniweidrwydd. Mae am ei pherthnasau, yn benodol gyda menywod (merched, neiniau). Mewn ffordd od mae’n ffeministaidd yn ei synwyrusrwydd, od oherwydd mae Jeanette wedi dewis creu gwaith am ei rôl fel mam, gellid ei weld yn hen-ffasiwn ac sydd yn ei hun yn creu tensiwn rhwng beth mae’n gwneud, a chanfyddiad cymdeithas o Jeanette.

Am | Jeanette Orrell

Astudiodd Jeanette yn Ysgol Gelf a Chrefft Camberwell o 1982 – 1985. Ar ôl graddio treuliodd beth amser yn teithio cyn dychwelyd i’r DU i gyflawni cyfnod preswyl, cyn priodi a geni dau blentyn. Gweithiodd Jeanette o adref tra’n codi’r plant ac arwain gweithdai amrywiol. Symudodd i Gymru yn 2002 pan ddaeth arlunio ei prif ymarfer. Yn 2006 cafodd Jeanette gyllid o Gyngor Celfyddydau Cymru ac yn 2013 cafodd gyllid cynhyrchu o Gyngor Celfyddydau Cymru i barhau ar ei chorff newydd o waith. 

<< Yn ôl tudalen