Y Gwneuthurwr
Sioe GraddedigionGwneuthurwr Mewn Ffocws
05 Awst - 14 Medi 2014
“I feithrin datblygiad a gwthio ffiniau celf gweledol a chymhwysol.”
Bwriad ‘Gwneuthurwr mewn Ffocws’ yw cyflwyno arbenigrwydd yng nghelf gymhwysol. Yn draddodiadol, mae’r cyfle hwn wedi ei ddefnyddio i arddangos gwneuthurwr unigol, ond yn dilyn teithiau o amgylch sioeau gradd a New Designers daeth yn amlwg fod dewis un gwneuthurwr graddedigol i’r sioe yma yn mynd i fod yn dasg amhosib. Gan ddilyn enw da Oriel Mission am gynorthwyo gwneuthurwyr ac artistiaid newydd, penderfynnwyd gwobrwyo pum graddedigion o Gymru a phellach gyda’r cyfle yma, y cyntaf o lawer gobeithio.
Mae’r graddedigion yma wedi arddangos arbenigedd yn eu maes arbenigol, gan ddangos rhai sydd wedi gwthio ffiniau traddodiadau Crefft a Chelf Gymhwysol.
Y graddedigion yw: Esme Parsons UCA Rochester
Harriet McCormick Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd
Jaki Coffey Coleg Genedlaethol Celf a Dylunio
Sophie Rees UWTSD Metropolitan Abertawe
Sophie Southgate Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd
I lawrlwytho PDF Sioe Graddedigion 2014 cliciwch yma